Cân i Giwpyd

Dyn wyf i sy brudd heb wên

(Cân i Giwpyd)
Dyn wyf i sy brudd heb wên,
  Ni bydda' i lawen ennyd;
Ond am fy ngholled ni wna' i lai
  Na bwrw'r bai ar Giwpyd.

Efô yn saethu'n amal iawn,
  A minnau'n llawn diofalwch;
O ran ei hanwadalwch hi
  Digwyddodd i mi dristwch.

Mi a fûm flwyddyn, doedai'n hy,
  Fy hun yn caru honno;
Fe ddaeth yntau a'i olwg wan,
  A'i dwyn hi dan fy nwylo.

Ond mawr na bai yn Lloeger faith
  Ryw fath ar gyfraith union,
Naill ai nadu hwn i' dre',
  Ai torri'i saethe llymion.

Er cael colled am fy Ngwen,
  Mi a fydda' 'n llawen eto,
Mewn gobaith mawr cyn hir o ddydd
  Y bydd hi'n rhydd oddi wrtho.

Hen Ganu   | An old Folk Song
c.1600

(A Song to Cupid)
I am a man who is sad without a smile
  I shall not be joyful for a moment;
But about my loss I shall do no less
  Than cast the fault upon Cupid.

He shooting very frequently,
  And I full of carelessness;
In terms of her inconstancy
  Unhappiness happened to me.

I was for a year, I say boldly,
  Myself loving her;
He came with his weak look,
  And stole her under my hands.

But there would not be in vast England
  Much of any kind of direct law,
Either of denying him his home,
  Or breaking his sharp arrows.

Although suffering loss of my Gwen,
  I shall be joyful yet,
In great hope before long of the day
  When she will be free from him.

tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~