Barnau Duw

Mae sŵn dy feirch drwy'r Ynys hon

(Barnau Duw -
Achlysurwyd gan y Cholera Morbus, 1832.)
Mae sŵn dy feirch
    drwy'r Ynys hon
  Mor lymion yn carlamu;
A lawer dan eu traed bob dydd,
  Trwy angeu sydd yn trengu.

Duw, galw'n ol dy farnol feirch,
  O! deled eirch dy deulu
Oll ger dy fron, O! dirion Dād,
  Yn ol dewisiad Iesu.

Mae dychryn barnau'n dechreu bod
  I'w 'nabod mewn wynebau,
Wrth sŵn pistylloedd
    dyfroedd Duw,
  O fewn i amryw fanau.

Wrth glywed sŵn dy feirch gerbron
  Mor eirwon yn gweryru,
Mae'r cryf a'r gwan,
    yr iach a'r claf,
  A'r uchaf yn brawychu.

Edward Jones 1761-1836
Caniadau Maes y Plwm 1857

(God's Judgments -
Occasioned by the Cholera Morbus, 1832.)
There is the sound of thy steeds
    throughout this Island
  So sharply galloping;
And many under their feet every day,
  Through death are perishing.

God, call back thy steeds of judgment,
  O may the petition of all thy family
Come before thee, O tender Father!
  According to the choice of Jesus.

Terror of judgments is beginning to be
  Known in faces,
Through the sound of the cataracts
      of the waters of God,
  Within various places.

On heaven the  sound of thy steeds nearby
  So roughly neighing,
The strong and the weak,
    the well and the sick,
  And the highest are being terrified.

tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~