Mae'r ddaear yn glasu

Mae'r ddaear yn glasu,
A'r coed sydd yn tyfu,
A gwyrddion yw'r gerddi,
  Mae'r llwyni mor llon;
A heirdd yw'r eginau
A'r dail ar y dolau,
A blodau'r perllannau
  Pur llawnion.

Os bu yn ddiweddar
Wedd ddu ar y ddaear
Cydganodd yr adar
  Yn gerddgar i gyd;
Gweld coedydd yn deilio
A wnái iddynt byncio,
Cydseinio drwy'n hoywfro
  Draw'n hyfryd.

Mae'r ddaear fawr ffrwythlon
A'i thrysor yn ddigon
I borthi'i thrigolion
  Yn dirion bob dydd;
Pe byddem ni ddynion
Mewn cyflwr heddychlon
Yn caru'n un galon
  Ein gilydd.
Carol Mai Traddodiadol

Tôn [6665.6663]: Mae'r ddaear yn glasu

The earth is greening,
And the woods are growing,
And green are the gardens,
  The groves are so cheerful;
And beautiful are the shoots
And the leaves on the meadows,
And the flowers of the orchards
  Purely full.

If there was lately
A black countenance on the earth
The birds chorussed
  All melodiously;
Seeing the woods sprouting leaves
Which would make them preen,
Chorussing through our gay vale
  Yonder delightfully.

The great fruitful earth is
With its treasure sufficient
To feed its inhabitants
  Tenderly every day;
If only we men were
In a peaceable condition
Loving with one heart
  One another.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Caneuon / Welsh Songs ~ Emynau / Welsh Hymns ~ Cerddi / Welsh Poems ~ Lyrics ~ Home ~