Yr Ysgol Sul nefolaidd le

Yr Ysgol Sul nefolaidd le,
  Dymunwn yno fod,
Yn blentyn gras, etifedd nef,
  Tra byddwyf is y rhod.

    Yr Ysgol Sul, yr Ysgol Sul,
      Mi'th garaf hyd fy medd,
    Can's ti ddangosaist i mi'r ffordd
      I'r wlad sy'n llawn o hedd.

Ces wybod yn yr Ysgol Sul
  Am Iesu'n dod mewn pryd,
I fwy a marw yn fy lle,
  Er maddeu meiau i gyd.

Am hyn cyflwynwn ddiolch clau,
  A mawl ganiadau pêr;
Heb dewi mwy,
    am rodd mor fawr,
  I'r Hwn sydd uwch y sêr.

Rhown groesaw hael
    i'r Ysgol Sul,
  Darllenwn, molwn Dduw,
Gweddiwn am Ei nawdd a'i ras,
  Nes myned ato i fyw.

Wel dewch i gyd i'r Ysgol Sul,
  Lle hyfryd, hyfyrd yw;
Lle cawn y fraint
    o ddysgu'r ffordd
  I fyn'd i'r Nef i fyw.
Hymnau y Cysegr

Tôn [MCD 8686D]: Yr Ysgol Sul
    (Miss S E Phillips, L.R.A.M., Cilfynydd.)

The Sunday School, a heavenly place,
  There I would desire to be,
A child of grace, an heir of heaven,
  While ever I am under the sky.

    The Sunday School, the Sunday School,
      I will love thee until my grave,
    Since thou didst show to me the way
      To the land that is full of peace.

I got to know in the Sunday School
  About Jesus coming in time,
To live and die in my place,
  To forgive all my faults.

Therefore I would present ready thanks,
  And the praise of sweet songs;
Never more falling silent,
    about a gift so great,
  To him who is above the stars.

We give a generous welcome
    to the Sunday School,
  We read, we praise God,
We pray for his protection and his grace,
  Until going to him to live.

So come ye all to the Sunday School,
  A delightful, delightful place it is;
Where we get the privilege
    of learning the way
  To go to the Master to live.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Caneuon / Welsh Songs ~ Emynau / Welsh Hymns ~ Cerddi / Welsh Poems ~ Lyrics ~ Home ~