Prysurai Charles a Jane i'r tŷ
yn wyllt o'r ardd ryw ddydd,
A bloeddient "Mam, gwnewch dd'weyd i ni
pa un yn iawn y sydd,"
"'Rwyf fi yn dewis," meddai Jane,
"y lili wyl ddifri;"
"A minau," meddai Charles a'i wên,
"y rhosyn coch imi."
"'Rwy'n caru'r lili," meddai un,
"a lili hoffwn fod,
Trwy fyw yn bur, yn wèn, yn gûn,
heb frych'yn na dû nôd."
Atebai'r llall, "gwell genyf fod
fel rhosyn teg ei bryd
I ado, er gwywo,
enw a chlod
yn bersawr yn y byd."
"Fy mhlant," atebai mam y rhai'n,
"yr y'ch eich dau yn iawn!
Ond clywch! o'r rhôs
a'r lili cain;
gwnewch un blodeuglwm llawn;
Trwy fyw'n bur lili,
bydd o'n hol,
bersawr y rhosyn blydd;
Can's dywedodd Duw - 'y cyfiawn byth
mewn coffadwriaeth bydd.'"
Griffith Williams (Gutyn Peris) 1769-1838
[Mesur: MCD 8686D] |
Charles and Jane rushed to the house
wildly from the garden some day,
And shouted, "Mam, do tell us
which one is right,"
"I am choosing," said Jane,
"the unassuming, gentle lily;"
"And I," said Charles with his smile,
"the red rose for me."
"I love the lily," said one,
"And I lily I would like to be,
Through living purely, white, dear,
without a spot or black mark."
Replied the other, "I prefer to be
like a rose with its fair appearance
To promise, although wilting,
a name and acclaim
sweet-smelling in the world."
"My children," replied their mother,
"you are both right!
But listen! from the rose
and the delicate lily;
you make one full posy;
Through living as a pure lily,
there shall be after us,
the sweet aroma of the luscious rose;
Since God said - "the righteous forever
in remembrance shall be.'"
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|