O hyfryd fydd y moli

Nid wyf ond plentyn bychan

Nid wyf ond plentyn bychan
  Yn caru'r Oen di-nam;
Fe'm dysgwyd i'w glodfori,
  Ar liniau hoff fy mam.
Bu'r Iesu farw trosof
  Ar fynydd Calfari:
A'i Ysbryd mwyn sy'n arwain
  Un bychan fel myfi.

    O! hyfryd fydd y moli
      Yng nghwmni mam a 'nhad,
    A'r Iesu annwyl yno
      Yn Frenin ar y wlad.

Os byddaf yn y bore
  Yn ufudd blentyn da,
Caf ganu gyda'r Iesu
  Yng ngwlad y bythol ha'.
Mae fil o delynorion
  Ar lan y grisial fôr;
O, am fy ngweled innau
  Yn aelod yn y côr!

Mi garwn weled yno
  Fy ffrindiau bach bob un;
Mae nefoedd fawr yr Iesu
  Yn ormod im' fy hun.
Wrth gydio'n llaw yr Iesu,
  Cyrhaeddwn yno oll,
Lle nad oes neb yn blino,
  Na neb yn mynd ar goll.
John Rees (Ioan Rhys)
Caniedydd Newydd yr Ysgol Sul 1930

Tôn [7676D+7676]: O hyfryd fydd y moli (1930 Tom Samuel)

I am only a small child
  Loving the innocent Lamb;
I was taught to extol him,
  On the lovely knee of my mother.
Jesus died for me
  On the mount of Calvary:
And his gentle Spirit is leading
  A small one like myself.

    O delightful it will be to praise
      In the company of
          mother and my father,
    With beloved Jesus there
      As King over the land.

If I am in the morning
  A good, obedient child,
I will get to sing with Jesus
  In the land of everlasting Summer.
There are a thousand harpists
  On the shore of the crystal sea;
O, for me to see myself
  As a member in the choir!

I would love to see there
  My small friends ever one;
The great heaven of Jesus
  Is too much for myself.
Holding the hand of Jesus,
  We shall all arrrive there,
Where there is no-one weary,
  Nor any getting lost.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Caneuon / Welsh Songs ~ Emynau / Welsh Hymns ~ Cerddi / Welsh Poems ~ Lyrics ~ Home ~