LLWYN ONN
Ym mhalas Llwyn Onn gynt,
fe drigai pendefig,
Efe oedd ysgweiar
ac arglwydd y wlad;
Ac iddo un eneth
a anwyd yn unig,
A hi nôl yr hanes
oedd aeres ei thad.
Aeth cariad i'w gweled
yn lân a phur lencyn,
Ond codai'r ysgweiar
yn araf ac erch,
I saethu'r bachgennyn,
ond gwyrodd ei linyn,
A'i ergyd yn wyrgam
i fynwes ei ferch.
Rhy hwyr ydoedd galw
y saeth at y llinyn
Â'r llances yn marw
yn welw a gwan;
Bygythiodd ei gleddyf
trwy galon y llencyn,
Ond ni redai cariad
un fodfedd o'r fan.
Roedd golud, ei darpar,
yn hen ac anynad,
A geiriau diwethaf
yr aeres hardd hon,
Oedd, 'Gwell gennyf farw
trwy ergyd fy nghariad
Na byw gyda golud
ym mhalas Llwyn Onn.'
Alaw
|
ASH GROVE
In Ash Grove Palace
there once lived a nobleman,
He was Squire
and Lord of the land;
And he had
an only daughter dear,
And she, according to the story,
was her father's heiress.
A lover went to see her,
a pure and upright youth,
But the squire arose
slowly and frightfully,
To shoot the lad,
but the string twisted,
And his shot went awry
into his daughter's breast.
It was too late to recall
the shot to the string
With the lass dying
in bed and weak;
His sword threatened
through the lad's heart,
But the lad would not run
an inch from the spot.
Wealth, her 'intended',
was old and petulant,
And the last words
of this beautiful heiress,
Were, 'Better that I die
through the blow of my love
That to live with wealth
in Ash Grove Palace.'
tr: 2008 Richard B Gillion
|
ASH-GROVE PALACE
In the grand Ash Grove Palace,
There lived a bold chieftain.
Tr. 1996 ©
Anthony Linden Jones, Sydney, Australia.
|