Blodau'r Iesu

Oes mae gan yr Iesu flodau ar y llawr

(Blodau'r Iesu)
Oes, mae gan yr Iesu
    flodau ar y llawr,
Dyfant i brydferthu
    llwybrau'r anial mawr:
  Blodau ieuaingc pêr,
  Gloewach fil na'r sêr,
  Dyna yw rhai bychain
      garant ffyrdd eu Ner.

    Blodau Iesu, rhos a lili,
      Cariad tyner, hardd eu gwedd:
    Maent yn hyfryd berarogli,
      Yma a thu-draw i'r bedd.

Mae yr Iesu'n gwylio'i
    flodau bob yr un,
Daw o'i ras i'w lliwio
    ar Ei wedd Ei hun:
  Dan dywyniad nef,
  Er pob storom gref
  Deuant yn fwy tebyg
      beunydd iddo Ef.

Mae yr Iesu'n casglu'i
    flodau yma a thraw;
Dwg hwy i'r goleuni
    yn ei dyner law:
  Yn y nef ddi glwy,
  Maent yn fyrdd a mwy,
  Ac mae lle i ninnau
      yno gyda hwy.
W Griffiths (G ap Lleision)

Tôn [10.10.5.5.11]:
    Blodau'r Iesu (Daniel Protheroe 1866-1934)

(The Flowers of Jesus)
Yes, Jesus has
    flowers on the earth,
They grow to beautify
    the paths of the great desert:
  Young, sweet flowers,
  A thousand times brighter than the stars,
  There are those small ones
      who love the ways of their Master.

    Flowers of Jesus, rose and lily,
      Tender love, beautiful their countenance:
    They are delightfully sweetly-scented,
       Here and beyond the grave.

Jesus is watching his
    flowers every one,
He will come of his grace to colour them
    according to His own countenance:
  Under the radiance of heaven,
  Despite every strong storm
  They will become more similar
      daily to Him.

Jesus is gathering his
    flowers here and there;
He will bring them to the light
    in his tender hand:
  In heaven without sickness,
  They will be a myriad and more,
  And there is a place for us too
      there with them.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Caneuon / Welsh Songs ~ Emynau / Welsh Hymns ~ Cerddi / Welsh Poems ~ Lyrics ~ Home ~