Gwelais hi ymhlith y blodau
Ar doriad dydd;
Gwrid y rhos oedd
ar ei gruddiau,
Ar doriad dydd;
Gwenai'n llawen
fel y wawrddydd,
A chystadlai â'r ehedydd,
Yn caroli mewn llawenydd,
Ar doriad dydd.
Gwelais hi drachefn yn gwelwi,
Ar doriad dydd,
Gyda grudd mor wen a'r lili,
Ar doriad dydd;
Gwelais hi mewn arch ac amdo,
Ac wrth weled un yn wylo,
Wylais innau ddagrau drosto,
Ar doriad dydd.
Mae'r aderyn du pigfelen,
Ar doriad dydd,
Mewn galarwisg yn yr ywen,
Ar doriad dydd;
Ond mae yna galon drymach,
Sydd yn curo'n ddwysach,
ddwysach,
Am adferu'r hen gyfeillach,
Ar doriad dydd.
Thomas Tudno Jones (Tudno) 1844-95Telyn Tudno 1897 |
I saw her amongst the flowers
At the break of day;
The ruddiness of the moor
was on her cheeks,
At the break of day;
She was smiling joyfully
like the dawn of day,
And competing with the lark,
Carolling in joy,
At the break of day.
I saw her again growing pale,
At the break of day,
With a cheek as white as the lily,
At the break of day;
I saw her in a coffin and shroud,
And on seeing one weeping,
I myself wept tears for him,
At the break of day.
The yellow-beaked blackbird is
At the break of day,
In mourning-dress in the yew,
At the break of day;
But there is then a heavier heart,
That is beating more earnestly,
more earnestly,
For the restoring of the old friendship,
At the break of day.
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|