Site hosted by Angelfire.com: Build your free website today!

~Sights of Wales~

Welcome to the sights of Wales a few pictuers of Castle in Wales ...

Harlechea Castle

Carnarfon Castle

Conway Castle

(music playing is a traditonal welsh song) the rejected Maiden Ar lan hen afon Ddyfrdwy ddofn Eisteddai glan forwynig Gan ddistaw sibrwd wrth'i hun "Gadawyd fi yn unig Heb gar na chyfaill yn y byd Na chartref chwaith fynd iddo Drws ty fy nhad sydd wedi'i gloi 'Rwy'n wrthodedig heno." Mae bys gwaradwydd ar fy ol Yn nodi fy ngwendidau A llanw 'mywyd wedi ei droi A'i gladdu dan y tonnau Ar allor serch aberthwyd fi Do, collais fy anrhydedd A dyna'r achos pa'm yr wyf Fi heno'n wael fy agwedd. Ti frithyll bach, sy'n chwareu'n llon Yn nyfroedd glan yr afon Mae gennyt ti gyfeillion fyrdd A noddfa rhag gelynion Cei fyw a marw dan y dwr. Heb neb i dy adnabod O! na chawn innau fel tydi Gael marw, a dyna ddarfod. Ond 'hedeg mae fy meddwl prudd I fyd sydd eto i ddyfod A chofia dithau fradwr tost Rhaid i ti fy nghyfarfod Mae meddwl am dy eiriau di A byw, i mi yn ormod O, afon ddofn, derbynia fi Caf wely ar dy waelod. Y boreu trannoeth cafwyd hi Yn nyfroedd glan yr afon. A darn o bapur yn ei llaw Ac arno'r ymadroddion "Gwnewch immi fedd mewn unig fan Na chodwch faen na chofnod I nodi'r fan lle gorwedd llwch Yr Eneth ga'dd ei Gwrthod."