Unwn gyda'r fyddin

Unwn gyda'r fyddin,
  Byddyn lân y nef;
Iesu yw ein Brenin,
  Unwn gydag Ef:
'Rydym yn Ei garu
  Ef yn fwy na'r byd -
Milwyr da i'r Iesu
  Fynnwn fod i gyd.

Llawer o elynion
  Sydd i Grist a'i Groes,
Llawer o arferion
  Drwg sy'n llygru'r oes:
Ond daw nerth o'r nefoedd
  I bob milwr iawn, -
Unwn yn dyrfäoedd,
  Buddugoliaeth gawn.

Os mai caled ydyw
  Brwydrau'r anial maith,
Daliwn ati heddiw -
  Dyma ddydd ein gwaith:
Buan bydd y brwydrau
  Wedi dod i ben,
A chawn oll goronau
  Yn y nefoedd wen.
Ben Davies 1864-1937

Tonau [6565D]:
Lyndhurst (Silas Jones Vail 1818-83)
Plasycoed (Caradog Roberts 1878-1935)
  Seion (A George)

Let us unite with the army,
  The holy army of heaven;
Jesus is our King,
  Let us unite with Him:
We are loving Him
  Him more than the world -
Good soldiers for Jesus
  Let us all insist on being.

Many enemies
  There are to Christ and his Cross,
Many evil weapons
  Are corrupting the age:
But strength comes from heaven
  To every true soldier, -
Let us unite in multitudes,
  Victory we shall get.

If hard are
  The battles of the vast desert,
Let us stick at it today -
  This is the day of our work:
Soon the battles will
  Have come to an end,
And we shall all get crowns
  In the bright heavens.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~