Nerthoedd y tragwyddol Ysbryd

(Gwaith yr Ysbryd Glân ar y Galon)
Nerthoedd y tragwyddol Ysbryd,
  Yn haeddiannau'r dwyfol Iawn,
A wna'r fynwes ddiffaith galed
  I ffrwythloni'n hyfryd lawn
    O rasusau,
  Pêr blanhigion nefol wlad.

Creigiau tanllyd Salem waedlyd,
  A fu'n bloeddio ag un llef,
Am Dywysog mawr y bywyd,
  "Ymaith! O! croeshoelier Ef!"
    Gwnaeth i'r rheini
  Wylo edifeirwch pur.

Os disgynni, addfwyn Ysbryd,
  I ryw fynwes ddu fel hyn,
A'i addurno â phur ddelw'r
  Hwn fu farw ar y bryn,
    Mawl a seinia
  Trwy'r holl nefoedd fawr am hyn.
A wna'r fynwes ... :: Wna i'r fynwes ...
fynwes ddu fel hyn :: fynwes fel rhai hyn
A'i addurno :: Ei addurno

David Charles 1762-1834
Hymnau ar Amrywiol Destunau 1823

Tonau:
Lewes (J Randall 1715-99)
Rhondda (M O Jones 1842-1908)
St Peter (alaw eglwysig)
Tantum Ergo Sacramentum (alaw Ffrengig)
Verona (alaw Eidalaidd)
  anad. (hen alaw) [ldtt|ltdmrm]

(The Work of the Holy Spirit on the Heart)
The strengths of the eternal Spirit,
  As the merits of the divine Atonement,  
Make the hard, useless breast
  Bear fruit delightfully fully
    From the graces,
  Of the sweet plants of the heavenly land.

The fiery rocks of bloody Salem,
  Which shouted with one cry,
About the great Prince of the world,
  "Away! O crucify Him!"
    It made those
  Weep pure repentance.

If thou descend, gentle Spirit,
  To some black breast like this,
And adorn it with the pure image
  Of Him who died on the hill,
    Praise it will sound
  Through the whole great heaven about this.
Make the ... breast :: And make the ... breast
black breast like this :: breast like this one
And adorn it :: Adorn it

tr. 2010 Richard B Gillion

 

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~