Yn ffordd d'orch'mynion Arglwydd da

(Erfyn am Arweiniad)
Yn ffordd d'orch'mynion, Arglwydd da,
Cyf'rwydda fi mewn byd o bla;
  Na'd i mi gyfeiliorni'n mhell,
  Oddiwrth dy dystiolaethau gwell.

Gwell i mi gyfraith d'enau di,
Na chyfoeth bydol, parch, na bri;
  Gwell yw na dim cael
      profi'th hedd,
  Tu yma a thu draw i'r bedd.

O maddeu 'meiau amal ri',
Cadw fi'n isel gyda thi;
  Dan brawf o'm gwaeledd,
      nefol Dad,
  A theimlad o dy gariad rhad.

Ac arwain fi a'th gadarn law,
Nes d'od i dir y bywyd draw;
  I ganu'th glod, tu fewn i'r llen,
  Heb dewi mwy
      dros byth - Amen.
Caniadau Bethel (Cas. Evan Edwards) 1840
              - - - - -

Yn ffordd d'orch'mynion, Arglwydd da,
O arwain fi mewn byd o bla;
  N'ād i mi ŵyro tra b'wyf byw,
  Oddiwrth dy dystiolaethau gwiw.

Gwell i mi gyfraith d'enau Di,
Na chyfoeth byd, na pharch, na bri;
  Gwell yw na dim cael
      profi'th hedd,
  Tu yma a thu draw i'r bedd.

O! cadw f'enaid ar bob tu,
Nes dyfod drwy'r Iorddonen ddu,
  Ac at y saint yn Nghanaan, sydd
  Oddiwrth eu beiau byth yn rhydd.

O Arglwydd! arwain fi'n dy law,
Nes d'od i dir y bywyd draw,
  I ganu'th glod, fry uwch y nen,
  Yn mhlith y llu tu fewn i'r llen.
chyfoeth byd, na pharch :: chyfoeth bydol, pharch
eu beiau byth yn rhydd :: bob camsyniadau'n rhydd
glod, fry :: glodydd

Anhysbys
Llawlyfr Moliant 1880

Tonau [MH 8888]:
Ernan (Lowell Mason 1792-1972)
Leipsic (Georg Neumark 1621-1681)
Yr Hen Ganfed (Salmydd Genefa 1551)

(Supplication for Guidance)
In the way of thy commandments, good Lord,
Train me in a world of plague;
  Do not let me wander far,
  Away from thy better testimonies.

I prefer the law of thy mouth,
To a world's wealth, reverence or honour;
  It is better than anything to get
      to experience thy peace,
  This side and beyond the grave.

O forgive my numerous faults,
Keep me humble with thee;
  Under the experience of my poverty,
      heavenly Father,
And a feeling of thy free love.

And lead me with thy firm hand,
Until coming to yonder land of life;
  To sing thy acclaim, within the curtain,
  Without ever falling silent
      any more - Amen.
 
                - - - - -

In the way of thy commandments, good Lord,
O lead me in a world of plague;
  Do not lead me stray while ever I live,
  Away from thy worthy testimonies.

I prefer the law of Thy mouth,
To a world's wealth, or reverence, or honour;
  Better that anything is to get
      to experience thy peace,
  This side and yonder side of the grave.

O keep my soul on every side,
Until coming through the black Jordan,
  And to the saints in Canaan, who are
  From their faults forever free.

O Lord! lead me in thy hand,
Until coming to the land of life yonder,
  To sing thy praise, up above the sky,
  Amongst the host within the curtain.
a world's wealth, or reverence :: worldly wealth, reverence
their faults forever free :: all errors free
praise, up :: praises

tr. 2019 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~