Wrth dy orsedd 'r wyf fi'n gorwedd
Wrth dy orsedd 'r( )wyf yn gorwedd
Wrth dy orsedd 'rwyf yn griddfan

1,2,3,(4),5,6;  1,(2),7.
(Ymroddiad hollol i ddisgwyl wrth Dduw)
Wrth dy orsedd 'r wyf fi'n gorwedd,
  Disgwyl am y ddedwydd awr,
Pryd câf glywed llais gorfoledd,
  Pryd câf wel'd fy meiau lawr:
    Ti gai enw 'r &c.
  Fuddugoliaeth it' dy hun.

Doed dy heddwch pryd y delo,
  Mi ddisgwyliaf ddydd a nos;
Annherfynol ydyw haeddiant,
  Haeddiant pur dy angau loes;
    Tyr'd yn fuan &c.
  Mae dy hedd yn fwy na'r byd.

Dattod rwydau sydd heb rifo,
  Wedi eu taenu draw o mlaen;
Llosg bob gefyn sy'n fy rhwymo,
  A dy ddwyfol nefol dân;
   Gwna i garcharor, &c.
  Heddyw gael ei draed yn rhydd.

Heddyw yw'r dydd rwi'n ofni syrthio,
  Diau heddyw yw efe,
Etto sefyll 'r wyf er gwaned,
  Trwy awdurdod mawr y Ne';
    Grym i gredu, &c.
  'R âf dan ofn i ben fy nhaith.

Dysg y galon drist i chwerthin,
  Dysg i'r mudan seinio cân;
Dysg yr ofnus gwan i gludo
  Uffern fawr i lawr o'i flaen:
    Tro wylofain, &c.
  Yn ganiadau Calfari.

Mil o werin chwarddai'n loyw,
  Pe caent wel'd fy mhen i lawr,
Gorfoleddent pe troe'r frwydr,
  Gadarn gyd âg uffern fawr:
    Dal fi i fynu, &c.
  Y'nghanol pwys
        a gwres y dydd.

Bywyd perffaith yw dy gwmni,
  Diliau mêl yw d'heddwch drud;
Gwerthfawrocach yw dy gariad
  Na holl berlau'r India i gyd:
    Gwlad o gyfoeth
  Yw yn unig dy fwynhau.
'r wyf fi'n gorwedd :: 'r wyf yn gorwedd
Pryd câf :: Pan câf
enw'r // Fuddugoliaeth :: enw // Y fuddugoliaeth
Tyr'd yn fuan :: Dere'n fuan

William Williams 1717-91
Ffarwel Weledig

Tôn [878747]:
Bridport (J Ambrose Lloyd 1815-84)
Dakota (Peter Edwards 1854-1934)
Hyder (Richard Ellis 1775-1855)
Verona (alaw Eidalaidd/Ellmynig)

gwelir:
  Dacw uffern yn ei harfau
Doed dy heddwch pryd y delo
Duw anfeidrol yw dy enw (Llanw'r nefoedd llanw'r llawr)
Heddyw yw'r dydd rwi'n ofni sythio

(Conduct wholly to be expected by God)
At thy throne I am lying,
  Waiting for the happy hour,
When I may hear a jubilant voice,
  When I my see sins brought down:
    Thou will get the name of the
  Triumph thou thyself.

Let thy peace come when it will,
  I will be expecting day and night;
Interminable is the merit,
  The pure merit of thy throes of death;
    Come soon,
  Thy peace is more than the world.

Undo the bonds which are without number,
  Having been spread yonder ahead;
Burn every shackle which is binding me,
  With thy divine heavenly fire;
    Make a prisoner,
  Today get his feet free.

Today is the day I am fearing falling
  Without doubt it is today,
Still standing I am although so weak,
  Through the great authority of Heaven;
    Strength to believe,
  I am going under fear to my journey's end.

Teach the sad heart to laugh,
  Teach the mute to sound a song;
Teach the fearful weak to carry
  Great hell down before him:
    Lamenting will turn,
  To the songs of Calvary.

A thousand folk would laugh brightly,
  If they got to see my head brought down:
They would be jubilant if the battle turned,
  Firm with great hell:
    Hold me up,
  In the midst of the weight
        and heat of the day.

Perfect life is thy company,
  Combs of honey are thy precious peace;
More valuable is thy love
  Than all the pearls of India altogether:
    A land of wealth
  It is only to enjoy thee.
::
::
::
::

tr. 2015,21 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~