'R wyf yma Arglwydd wrth Dy draed

1,2,3,4;  1,2,5,6.
(Edifeirwch)
'R wyf yma, Arglwydd, wrth Dy draed,
Yn teimlo eisieu
    rhîn Dy waed;
  Yr wyf yn dlawd; a phwy a ŵyr,
  Ond Ti Dy Hun, fy eisieu'n llwyr?

Gwrthgilio wne's, gwrthgilio 'r wy',
Os heb Dy nerth,
    gwrthgiliaf fwy;
  'R wy'n blino ar deganau'r byd,
  A'u caru 'r wyf er hyny i gyd.

O Iesu! fy Eiriolwr mawr,
Nid felly câf fy meiau i lawr;
  P'am 'r wyt Ti c'yd yn sefyll draw?
  Bryd gwelwyd mwy o eisieu'th law?

Clâf wyf am deimlo gwaed yr Oen,
Yn rhodio beunydd mewn rhyw boen;
  'D oes unrhyw eli
      rydd iachâd
  Yn unig, Iesu, ond Dy waed.

Mae grâs yn rhyw anfeidrol stôr,
A doniau ynot fel y môr;
  O! gad i druenusaf ddyn
  Gael profi gronyn
      bach o'i rin.

Ac os bydd i Ti faddeu 'mai,
Ac f'archollion fy iachau,
  Dy glôd, Dy râs,
      a'th enw gwiw
  Gaiff fod fy mhleser
      tra f'wyf byw.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Brynteg (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Ceredigion (alaw Ellmynig)
Leipsic (Georg C Neumark 1621-81)

gwelir:
  Gwel ar Galfaria dyma'r dyn
  O Iesu mawr y Meddyg gwell
  Wrth droi fy ngolwg yma i lawr
  Yn Peniel 'rwyt fy enaid clyw

(Repentance)
I am here, Lord, at Thy feet,
Feeling the need of the
    merit of Thy blood,
  I am poor, and who knows,
  But Thou Thyself, my need completely?

Retreat I did, retreating I am,
If without Thy strength,
    I shall retreat evermore;
  I am weary of the world's toys,
  And loving them, despite this, I am.

O Jesus, my great Intercessor,
I cannot thus get my sins down;
  Why are thou so long standing yonder?
  When was more need of thy hand seen?

I languish to feel the blood of the Lamb,
Walking daily in some pain;
  There is no ointment that
      gives free healing,
  But, Jesus, thy blood alone.

Grace is some immeasurable store,
And gifts in it like the sea;
  O let a most wretched man
  Get to experience a small
      grain of its merit.

And if Thou wilt forgive my fault,
And of my wounds heal me,
  Thy praise, Thy grace,
      and thy worthy name
  Shall get to be my pleasure
      while ever I live.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~