Rho imi wel'd mai Ti yw'm hedd

1,2,3,4,5,6,7;  1,2,4,5,6;  1,4,5.
(Neb ond Duw)
Rho imi wel'd mai Ti yw'm hedd,
A llwyr ddifyru ar Dy wedd,
  A chym'ryd D'eiriau gwerthfawr drud
  Yn unig bleser yn y byd.

Gad imi gael Dy Ysbryd pur
Yn gyfaill yn yr anial dir;
  Fel byddo Dy holl gyfraith lym
  Yn felus ac yn hyfryd im'.

Does le mi wela
    i rannu mryd,
Un amser rhyngot ti a'r byd;
  Cariadau eraill aeth yn ddim,
  Dy hun cai fod
      yn Briod im'.

Pan welych fi yn crymu 'mhen
At ryw wrthrychau îs y nen,
  O! dangos im' na thâl yr un
  I'w garu byth ond Ti Dy Hun!

O! cwyd fi o'r pydewau i'r làn,
A gwna fi'n gadarn pan bwy'n wàn;
  A dangos i'r annuwiol ryw
  Na feddaf gyfaill ond fy Nuw.

Na fydded i'r llifeiriant mawr
I soddi'm henaid gwan i lawr;
  Ac na chaed cystudd byth fy nhrin
  Heb Ei gyfeillach Ef Ei Hun.

Y stormydd ag wy'n myned trwy,
Fe cas nhw hun yn llawer mwy;
  Er gwaned wyf, ond yn ei rym,
  Pe baent yn fwy
      nid ofnaf ddim.
O! cwyd fi :: O cod fi

William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
  All Saints (<1835)
Babilon (Thomas Campion 1567-1620)
Ernan (Lowell Mason 1792-1872)<
Green's (<1811)
Melindwr (<1869)
Menai (Psalmydd Playford 1671)

gwelir:
  Dal fi fy Nuw dal fi i'r làn
  Dysg fi fy Nuw dysg fi pa fodd
  Gad i mi gael dy Ysbryd pur
  O Arglwydd pa'm y rhed fy mryd?
  O Iesu mawr y Meddyg gwell

(Only God)
Grant me to see that Thou art my peace,
And completely delight in Thy face,
  And take Thy costly valuable words
  As the only pleasure in the world.

Let me have Thy pure Spirit
As a friend in the desert land;
  So may all Thy strict law be
  As sweet and delightful to me.

There is no place I see
    to share my attention,
Any time between thee and the world;
  The loves of others went to nothing,
  Thou thyself shalt get to be
      a Spouse to me.

When you see me bowing my head
At some objects below the sky,
  Oh show me not one is worth
  Loving ever except Thou Thyself!

Oh raise me up from the mires,
And make me firm when I am weak!
  And show to the ungodly
  I have no friend but my God.

May the great torrent not
Sink my weak soul down;
  And may affliction not get to treat me
  Without His very own friendship.

The storms that I am going through,
He himself had much greater;
  Although I am so weak, but in his power,
  If they were greater
      I would fear nothing.
::

tr. 2010,21 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~