Pwy sydd gennyf yn y nefoedd?

(Pwy sydd gennyf ond Tydi?)
Pwy sydd gennyf yn y nefoedd
  Ond Tydi, Waredwr cun?
A phwy hefyd ar y ddaear
  Ond Tydi'r anwylaf Un?
Pwy a'm tywys yn yr anial?
  Pwy yn angau ddeil fy mhen?
Pwy a'm cymer i ogoniant
  Ond Tydi, Dywysog nen?

Diolch byth am it fy nghofio
  Yn fy ngwaelodd ar y llawr,
Pryd o ganol nos anobaith
  Troist fy ŵyneb tua'r wawr;
Codaist f'enaid o'r dyfnderoedd,
  Yn fy ngenau rhoddaist gân,
A chyfeiriaist fy ngherddediad
  Tua'th gartref dedwydd glân.

Paid â gadael imi farw,
  Heb dy heddwch, O! fy Nuw;
A heb wedd
    dy ŵyneb grasol
  Paid â gadael imi fyw;
O! am olwg newydd arnat,
  Bob rhyw fore,
      bob rhyw hwyr,
Nes im ddyfod adref atat,
  Lle caf fyth
      fodlonrwydd llwyr.
Charles Davies 1849-1927

Tonau [8787D]:
    Hebron (Johann Crüger 1598-1662)
    Llansanan (alaw Gymreig)
    Tanycastell (John Jones 1796-1857)

(Who have I but Thee?)
Who have I in heaven
  But Thee, dear Deliverer?
And who also on the earth
  But Thee the most beloved One?
Who will lead me in the desert?
  Who in death will hold my head?
Who will take me to glory
  But Thee, the Prince of heaven?

Thanks forever for thy remembering me
  In my baseness on the ground,
When from the midnight of hopelessness
  Thou didst turn my face towards the dawn;
Thou didst raise my soul from the depths,
  In my mouth thou didst put a song,
And didst direct my walking
  Towards thy happy, holy home.

Do not let me die,
  Without thy peace, O my God!
And without the countenance
    of thy gracious face
  Do not let me live;
O for a new sight upon thee,
  Every kind of morning,
      every kind of evening,
Until I come home to thee,
  Where I shall get forever
      complete satisfaction.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~