Pan [b'wi'n / bwy'n] profi pleser yma

1,(2),3,4.
(Dedwydd waredigaeth yn y diwedd)
Pan bwy'n profi pleser yma,
  Buan rhaid im godi 'mhen;
Nid oes le i mi ymddifyru
  Wrth un pleser īs y nen:
    Caf ar fyrder
  Yfed hedd heb ddiwedd mwy.

Mae 'mhleserau i'n awr yn ddwbl,
  Yma beth, ac yno fwy;
Mae'm cystuddiau aml eilwaith,
  Oll yn gonglog megis hwy:
    Ond fe a heibio,
  Ryw bryd gwpan chwerw'r groes.

Fe ddaw'm gwar i etto'n union,
  Heddyw sy'n ymgrymu i lawr -
Byd ac angeu'n cludo arnaf,
  'R un diwrnod, feichiau mawr:
    Yn lle griddfan
  Mi gaf ganu maes o law.

Tyred, hyfryd foreu tawel,
  Tyred, hapus, ddedwydd ddydd,
Pan bo'r dorau pres yn agor
  I'r carcharor fyn'd yn rhydd:
    Rho arwyddion
  O fod hyny'n agoshau.
Tyred :: Dere

William Williams 1717-91

Tonau [878747]:
Kentucky (<1811)
Lewes (John Randall 1717-99)
Verona (alaw Eidalaidd/Ellmynig)

gwelir: Dysgwyl 'rwyf ar hyd yr hirnos

(Happy deliverance at the end)
When I am experiencing pleasure here,
  Soon I must raise my head;
There is nowhere for me to enjoy myself
  In any pleasure under the sky:
    I may shortly
  Drink peace with never any more end.

My pleasures are now double,
  Somewhat here, and there more;
My afflictions are repeated over again,
  All with many turns like them:
    But some time
  Shall the bitter cup of the cross pass.

My neck shall become straight again,
  That today is bending down -
The world and death bringing upon me,
  The same day, great burdens:
    Instead of groaning
  I shall get to sing soon.

Come, delightful, quiet morning,
  Come, happy, cheerful day,
When the brass doors shall open
  For the prisoners to go free:
    Give thou signs
  That this is drawing near.
::

tr. 2020 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~