Os drwy filoedd o gystuddiau
Os trwy filoedd o gystuddiau
Os trwy lawer o gystuddiau

1,2,3,4,5,6,7;  1,3,2.
(Ymddiried yn Nuw)
O's trwy filoedd o gystuddiau
  Rhaid im' etto fentro 'mla'n,
Yn dy allu af trwy'r dyfroedd,
  Yn dy allu af trwy'r tˆn:
    Noddfa i mi, ...
  Bydd dy hunan, Arglwydd mawr.

Tan dy gysgod, Craig yr Oesoedd,
  Yn gysurus galla'i fyw;
Fy unig gysur tan y nefoedd
  Yw dy fod di i mi'n Dduw:
    Digon i mi, ...
  Yw dy wyneb gwridog gwyn.

Dal fy yspryd yn y rhyfel
  Dal fy llygaid arnat ti,
Tan dy adain gall'i ganu,
  A gorchfugu'r llewaidd lu:
    Mi anturi, ...
  Etto i'r grwydr yn dy law.

Noddfa i mi yn y 'storom
  Buost Arglwydd hyd yn hyn;
Amddiffynfa yn y frwydr,
  Maeddaist droswyf ar y bryn:
    Tan dy gysgod, ...
  Ffoaf rhag y llid a fydd.

Pan fwy'n griddfan tan y tonnau,
  Heb wel'd noddfa o un tu,
Dangos i mi Hollalluog,
  Fod fy mywyd ynot ti:
    Ceidwad Israel, ...
  Cymmer ofal eiddil gwan.

Dyrnfedd fechan yw fy nyddiau,
  Safa'i ronyn ar y ma's,
Derfydd temtio, derfydd pechu,
  Derfydd cario'r cleddyf glas:
    Af o'r 'storom, ...
  I'r breswylfa lonydd draw.

Tro fy nghefn ar wrthddrychiau
  Darfodedig gwag y llawr,
Dal fy wyneb ar y bywyd,
  Gwlad fy etifeddiaeth fawr:
    Ffarwel ddaear, ...
  Nefoedd i mi yn dy le.
O's drwy/trwy filoedd o :: Os trwy lawer o
Craig :: Graig
Yn gysurus galla'i :: Yn hyderus gallaf
Fy unig gysur tan :: F'unig noddfa dan
dy fod di i mi'n Dduw :: dy gael i mi yn Dduw
wyneb gwridog gwyn :: wyneb yn y glyn
Tan dy adain gall'i ganu :: Dan dy gysgod gallaf ymladd
gorchfygu'r llewaidd lu :: gorchfygu uffern ddu
Etto i'r grwydr yn :: Os caf afael yn :: 'Nawr i'r frwydyr yn

Morgan Rhys 1716-79
Golwg o Ben Nebo, 1764.

Tonau [878747]:
Ad Perennis (Tours Breviary)
Catherine (David Roberts 1820-72)
Disgwyliad (F Filitz 1804-76)
Lutterworth (<1892/1921)
Mannheim (F Filitz 1804-76)
Rhuddlan (alaw Gymreig)
St Hildebert (alaw Eglwysig)
St Peter (alaw Eglwysig)

(Trusting in God)
If through thousands of afflictions
  I must still venture onward,
In thy power I will go through the waters,
  In thy power I will go through the fire:
    A refuge to me, ...
  Be thou thyself, great Lord.

Beneath thy shadow, Rock of the Ages,
  Comfortably I shall be able to live;
My only comfort under the heavens
  Is that thou art God to me:
    Sufficient for me, ...
  Is thy ruddy, white face.

Hold my spirit in the war
  Keep my eyes upon thee,
Under thy wings I am able to sing,
  And overcome the host of lions:
    I shall venture, ...
  Still into the wandering in thy hand.

A refuge for me in the storm
  Thou hast been, Lord, until now;
A stronghold in the battle,
  Thou didst strike for me on the hill:
    Under thy shadow, ...
  I shall flee from the wrath to come.

When I am groaning under the breakers,
  Without seeing a refuge on any side,
Show me, Almighty,
  That my life is in thee:
    Keeper of Israel, ...
  Take care of a feeble, weak one.

A small span are my days,
  I shall stand for a moment on the field,
Tempting shall cease, sinning shall cease,
  Carrying the blue sword shall cease,
    I shall go from the storm, ...
  To yonder peaceful residence.

Turn my back on vanishing,
  Empty objects of below,
Keep my life on the life,
  The land of my great inheritance:
    Farewell earth, ...
  Heavens for me in thy place.
If through thousands of :: If through many
::
Comfortably I shall be able to :: Boldly I shall be able (to)
My only comfort under :: My only refuge under
that thou art God to me :: to get thee for me as God
ruddy, white face :: face in the vale
Under thy wings I am able to sing :: Under thy shadow I am able to fight
overcome the host of lions :: overcome black hell
Still into the wandering in :: If I may hold :: Now into the battle in

tr. 2013 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~