O sancteiddia f'enaid, Arglwydd.

1,2,3,4,5;  1,2,4,(5);  1,3,4,(5);  1,4,(6);  1,6,7,8.
(Sancteiddio'r Nwydau) / Gweddi am Sancteiddrwydd)
O sancteiddia f'enaid, Arglwydd,
  Ym mhob nwyd ac ym mhob dawn;
Rho egwyddor bur y nefoedd
  Yn fy ysbryd llesg yn llawn;
    Na fi grwydro
Draw nac yma o fy lle.

Llwybr cul gwna'n llwybr esmwyth,
  Tyle serth yn wastad iawn,
Cyfyngderau chwith a chroesau
  O ddiddanwch pur yn llawn;
    Edrych trwyddynt
I fynyddau ty fy Nhad.

Ti dy Hunan all fy nghadw
  Rhag im wyro ar y dde,
Rhedeg eilwaith ar yr aswy,
  Methu cadw llwybrau'r ne;
    O tosturia,
Mewn anialwch 'r wyf yn byw.

Planna'r egwyddorion hynny
  Yn fy natur bob yr un
Ag sydd megis peraroglau
  Yn dy natur Di dy Hun;
    Blodau hyfryd
Fo'n disgleirio daer a nef.

Fel na chaffo'r pechod atgas,
  Mwg na tharth o'r pydew mawr
I fy nallu ar y llwybr
  Na fy nhaflu fyth i lawr,
    Gwna im gerdded
Union ffordd wrth olau dydd.

Wrth fy nghuro gan y gwyntoedd,
  Wrth fy maeddu gan y don,
Wrth fy nryllio'n erbyn creigiau,
  Blinais ar y ddaear hon:
    O! am ddyddiau,
  Pan ddarfyddo pechu'n lān.

Croesau geirwon sydd yn felys,
  Pan yr elo hi'n brydnawn,
Dyfnder galar sydd yn esgor,
  Ar lawenydd hyfryd iawn;
    O am weled,
  Heno dawel foreu wawr.

Bywyd perffaith yw'th gymdeithas,
  Diliau mel yw'th heddwch drud;
Gwerthfawrocach yw dy gariad,
  Na holl berlau'r India i gyd;
    Gwlad o gyfoeth,
  Yw yn unig dy fwynhau.
Na fi grwydro :: N'ad fi grwydro

William Williams 1717-1791

Tonau [878747]:
Aslacton (<1875)
Caio (<1869)
Catherine (David Roberts 1820-72)
Deisyfiad (H J Gauntlett 1806-76)
Dorallt (Emlyn Davies 1870-1960)
Hyder (Richard Ellis 1775-1855)
Lewes (J Randall 1715-99)
Clement / St Peter (alaw eglwysig)
Mariners (alaw Italaidd)
Tantum Ergo Sacramentum (alaw Ffrengig)
Upsal (<1875)
  anad. (hen alaw) [ldtt|ltdmrm]

gwelir:
  Croesau trymion sydd yn felus
  Duw anfeidrol yw dy enw (Llanw'r nefoedd llanw'r llawr)
  Wrth fy nghuro gan y gwyntoedd

(Sanctifying the Passions) / (A Prayer for Sanctification)
O sanctify my soul, Lord,
  In every passion and in every gift;
Put a pure principle of heaven
  In my weak spirit fully;
    That I not wander
  Yonder nor here from my place.

A narrow path make a smooth path,
  A steep hill very level,
Sinister and contrary distresses
  Fully of pure delight;
    To look through them
  To the mountains of my Father's house.

Thou Thyself can keep me
  From swerving to the right,
Running alternatively to the left,
  Failing to keep to the paths of heaven;
    O have mercy,
  In the desert I am living.

Plant these principles
  In my nature every one
And which are like perfumes
  In Thy own nature;
    Delightful flowers
  Be shining earth and heaven.

So shall no hateful sin get to,
  Nor smoke nor mist of the great pit,
Blind me on the path
  Nor ever throw me down,
    Make me walk
  A straight road by light of day.

While being buffeted by winds,
  While being assailed by the wave,
While being wrecked against rocks,
  I was wearied on this earth:
    O for days,
  When sin shall pass away completely.

Rough crosses are sweet,
  As evening draws on,
The depth of mourning is giving birth,
  To very delightful joy;
    Oh to see,
  Tonight the dawn of quiet morning.

Perfect life is thy fellowship,
  Combs of honey is thy precious peace;
More valuable is thy love,
  That all the pearls of all India;
    A land of riches,
  Is only to enjoy thee.
That I not wander :: Do not let me wander

tr. 2009,11 Richard B Gillion

(Sanctify me, Light of Light.)
In my every gift and passion,
  Sanctify me, Light of Light!
Changeless purity of heaven
  Be my feeble spirit's might.
    That I stray not
Self-deluded from Thy path.








Thou alone Thyself canst keep me,
  That I fail not in the way,
Wandering heedless on the right hand,
  Speeding on the left astray:
    Saviour, pity!
Now the desert is my home.

Plant in me those inmost graces
  Which in Thee my soul enthral,
Of perfection's self the fragrance,
  Glories of the glories all!
    One sweet radiance
Clothe with beauty earth and heaven!




























 

tr. Ellis Edwards 1844-1915

Tune: unkn. (old air) [ldtt|ltdmrm]

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~