O mor ddymunol yw cael cwrdd

(Bwrdd yr Arglwydd)
O! mor ddymunol yw cael cwrdd
A'm hoff Anwylyd wrth ei fwrdd
 Ymlonni yn ei gariad llawn,
 A thawel orffwys ar yr Iawn. 

Mae'r fath hawddgarwch yn ei bryd,
Gwledd felys yw,
    na ŵyr y byd:
  Fy nefoedd yw bod ger ei fron
  Yn siriol wedd
      ei wyneb llon.

Ymrwymiad adnewyddol yw
I rodio a bodloni Duw;
  A phrawf o
      gariad Brenin nef,
  Ei ddoniau a'i ffyddlondeb Ef.

Y cof o'i angau Ef a'i ras
Farweiddia'n llwyr fy mhechod cas;
  Myfyrio loes
     Iachawdwr byd
  A wywa'r llygredd oll i gyd. 
Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia) 1803-70

Tonau [MH 8888]:
Abends (H S Oakley 1830-1903)
Arizona (Robert Earnshaw 1852-1929)
Cromer (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Ernan (Lowell Mason 1792-1872)
Fulda (Gardiner's Sacred Melodies 1815)
Whitburn (H Baker 1835-1910)

(The Lord's Table)
O how pleasant it is to get to meet
With my fond Beloved at his table
  To cheer myself in his full love,
  And quietly to rest on his Atonement.

There is such loveliness in his heart,
A countenance which is sweeter
    than the world knows:
  My heaven is to be before him
  In the cheerful presence
      of his glad face.

A renewing engagement it is
To stroll and please God;
  And a taste of the love from
      the King of heaven,
  His gifts and His faithfulness.

The memory of His death and his grace
Will mortify completely my hateful sins;
  Contemplating the anguish
      of the Saviour of the world
  Will wither the corruption altogether.
tr. 2009 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~