O Arglwydd cofia'th angeu drud

(Ymddiried yn angeu Crist)
O Arglwydd! cofia'th angeu drud,
A'th boenau mawrion yn y byd;
  A dadleu 'rhai'n âg uchel lef
  Dros f'enaid tlawd yn nghanol nef.

Na'd fi ymddiried, tra f'wyf byw,
  Ond yn dy angeu di, fy Nuw;
Dy boenau a dy farwol glwy'
  Gaiff fod yn ymffrost imi mwy.

Ni cheisiaf loches ond dy glwy',
Tan donau mawrion fwy na mwy;
  Mae'th waed yn nyfnder
      poen a gwae,
  Yn peri i mi lawenhau.

Os daw y gyfraith yn ei grym,
A gofyn am berffeithrwydd im';
  'Does gen' i ond dangos
      angeu loes,
  A'r gwaed yn llifo ar y groes.

               - - - - -

O Arglwydd! cofia'th angeu drud,
A'th boenau mawrion yn y byd;
  A dadleu 'rhai'n âg uchel lef
  Dros f'enaid tlawd yn nghanol nef.

O! cofia'th wae, a'th waed,
    a'th gur,
Ac ôl yr hoelion llymion dur,
  Dy chwŷs i'r llawr
      yn ddafnau gwaed,
  A'th glwyfau mawr
      o'th ben i'th draed.

'R wy'n ceisio ymdreiglo at Dy waed,
Gan gwympo'n llaw trugaredd râd;
  'D oes gweithred dda yn eiddof fi 
  All hòni hawl
      i'r nefoedd fry.
dadleu 'rhai'n :: dadleu hwy,
ceisio ymdreiglo at :: d'od i 'mofyn am
Gan gwympo'n :: 'Rwy'n cwympo'n
yn eiddof fi :: o'r eiddof fi
hòni :: roi im'

William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Babilon Streams (Thomas Campion 1567-1620)
Ceredigion (alaw Ellymnig)
(Emyn) Luther (Gesangbuch Klug 1535)
Green's (<1811)
Leipsic (Georg Neumark 1621-81)
Morafia (<1869)
St Cross (J B Dykes 1823-76)
Scranton (Daniel Protheroe 1866-1934)

gwelir:
  Fy haeddiant mawr yn nghanol ne'
  Gofyniad nefoedd faith ei hun
  Gwel ar Galfaria dyma'r dyn
  Mae'r graig mae f'enaid arni'n byw
  Mae rhyw ddirgelwch llawer mwy
  Ni fedd anglion er eu bri
  Nid yw fy nyddiau yn y byd
  Pan b'wy'n golygu'r groes yn awr
  Pechadur wyf da gŵyr fy Nuw

(Trust in the death of Christ)
O Lord, remember thy costly death,
And thy great pains in the world;
  And plead these with a loud voice
  For my poor soul in the middle of heaven.

Do not let me trust, while ever I live,
  But in thy death, my God;
Thy pains and thy mortal wound
  Shall get to be a boast for me evermore.

I shall not seek a refuge but in thy wound,
Under great waves, greater and greater;
  Thy blood is in the depth
      of pain and woe,
  Are causing me to rejoice.

If the law comes in its force,
And demands perfection of me;
  I have nothing but to show
      the throes of death,
  And the blood flowing on the cross.

                - - - - -

O Lord, remember thy costly death,
And thy great pains in the world;
  And plead these with a loud voice
  For my poor soul in the middle of heaven.

O remember thy woe, and thy blood,
    and thy beating,
And the mark of the sharp, steel nails,
  Thy sweat to the ground
      as drops of blood,
  And thy great wounds
      from thy head to thy feet.

I am seeking to make my way to Thy feet,
Falling into the hand of free mercy;
  There is no good action belonging to me
  Which can claim the right
      to heaven above.
plead these :: plead them,
seeking to may my way to :: coming to ask for
Falling into :: I am falling into
::
claim :: give me

tr. 2015,19 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~