O am groesi'r ddû Iorddonen

(Chwennych y Wlad Well)
O am groesi'r ddû Iorddonen
  I feddiannu'r hyfryd wlad:
O fy Mhrynwr gwerthfawr, arwain
  Fi i dŷ fy nefol Dad;
    Dwg fi adref, &c.
  O'r anialwch erchyll hwn.

Perarogla'i maesydd gwyrddion
  Gan anfarwol flodau hardd;
Ffrwythau iachus a melysion
  Gesglir yno'n ddiwahardd:
    Pren y bywyd, &c.
  Dros y fro a leda'i frig.

Ei haneirif gu drigolion
  A gydrodiant gyda'r Oen,
Oll yn gwisgo'u gynau gwynion,
  Yn ddibechod, yn ddiboen:
    Gorfoleddu, &c.
  Yn dragwyddol fydd eu gwaith.
Benjamin Francis 1734-99
Diferion y Cyssegr 1807

Tôn [878747]: Catherine (David Roberts 1820-72)

(Desire for the Better Land)
O to cross the black Jordan
  To possess the delightful land!
O my precious Redeemer, lead
  Me to my heavenly Father's house;
    Lead me home, etc.
  From this horrible desert.

The sweet scents of its green fields
  From beautiful, immortal flowers;
Healthy and sweet fruits
  Are to be gathered unhindered there:
    The tree of life, etc.
  Over the region shall spread its head.

Her innumerable dear inhabitants
  Shall walk together with the Lamb,
All wearing their white robes,
  Sinless, painless:
    Rejoicing, etc.
  Eternally shall be their work.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~