Iesu llawnder mawr y nefoedd

Iesu, llawnder mawr y nefoedd,
  Gwrando lef un eiddil gwan,
Sydd yn gorwedd wrth dy orsedd,
  Ac yn codi llef i'r lan;
Yn dy iechydwriaeth gyflawn,
  Er mor egwan wyf yn awr,
Ceir fy ngweled ryw ddiwrnod,
  Yn dysgleirio fel y wawr.

Môr sydd ynot o fendithion,
  Heb waelodion iddo'n bod:
Y mae'n llanw byth o'th rinwedd,
  Nid oes diwedd ar dy glod;
Dy enw beunydd sy'n ymdaenu,
  Fel goleuni'r bore wawr;
Bydd telynau i ti'n cânu,
  Byth rifedi gwellt y llawr.

             - - - - -

   1,2,6,7;  1,3,6,7;  1,4,5,6,7.

Iesu llawnder mawr y nefoedd,
  Gwrando lef un eiddil gwán,
Sydd yn gorwedd wrth dy orsedd,
  Ac yn codi ei lef i'r lán:
Mae 'ngelynion heb rifedi,
  Yn fy nghuro o bob tu;
Ac nid oes a all fy achub,
  Is y nefoedd ond tydi.

Yn dy glwyfau y mae bywyd,
  Tyllau'r hoelion yw fy nyth,
'D ofna'i fyd, na chnawd, na phechod,
  Nac euogrwydd yno byth:
Gwaed fy Mhriod wedi ei golli,
  Archoll fawr y wayw-ffon,
Yw fy nghraig a'm dinas noddfa,
  Sicr ar y ddaear hon.

Daccw'r unig feddyginiaeth,
  Gadarn i druenus ddyn;
Mae pob gobaith wedi darfod,
  Maes o hono ef ei hun,
Trwm a llwythog yw fy meichiau,
  Poen euogrwydd sydd yn fawr,
Nid oes fan ond pen Calfaria,
  Galla'i ddodi mhen i lawr.

Dedwydd yw sydd yn dy haeddiant,
  Nid rhyw ofnau yno sydd,
Ond llawenydd, hedd, a chariad,
  Oll yn oll yn cario'r dydd.
Gwledd wastadolyw dy gwm'ni,
  Pell uwchlaw holl ddëall dyn,
Ond y rhei'ny a ga'dd ei phrofi,
  Gan dy Ysbryd di dy hun.

Yn dy fynwes mae diogelwch,
  Nid oes arall yn un man;
Nad yw uffern fawr n curo,
  Nad wyf finnau'n hollol wan.
Dywg fi aros yno'nllonydd,
  Peidio gwibio yma a thraw,
Arwain eiddil dros y bryniau,
  Megis Prïod yn dy law.

Marchog Iesu yn llwyddiannus,
  Gwisg dy gleddyf ar dy glun,
Ni all daear dy wrthsefyll,
  'Chwaith nac uffern fawr ei hun:
Mae dy enw mor ardderchog,
  Pob rhyw elyn gilia draw;
Mae dy arswyd trwy'r grëadigaeth,
  Tyr'd am hyny maes o law.

Ac am hyny ti gai'r enw,
  Ti gai'r fuddugoliaeth lawn,
Ti gai'r clôd,
    y nerth, a'r gallu,
  A'r gogoniant fore a nawn;
Fe gaiff seintiau ac angylion,
  A cherubiaid pur yn un,
Swnio maes i drag'wyddoldeb,
  It' wneyd pabell gyda dyn'.

             - - - - -

         1,2,(3,(4));  1,4.

Iesu, llawnder mawr y nefoedd,
  Gwrando lef un eiddil, gwan,
Sydd yn gorwedd wrth Dy orsedd
  Ac yn codi ei lef i'r lan:
Mae 'ngelynion heb rifedi
  Yn fy nghuro o bob tu
Ac nid oes a all fy achub
  Is y nefoedd ond Tydi.

Yn Dy haeddiant 'rwyf yn gyflawn,
  Yn D'oleuni gwela' i'n glir,
Yn Dy wisgoedd dwyfol, disglair,
  Bydda' i'n ogoneddus bur:
Yn Dy iechydwriaeth gyflawn,
  Er mor wanned wyf yn awr,
Ceir fy ngweled ryw ddiwrnod
  Yn disgleirio fel y wawr.

Dwed y gair, fy addfwyn Iesu,
  Yna f'enaid lawenha -
Gair o addewid gai fy mhuro
  O bob pechod, o bob pla. 
Gwrendy f'enaid mewn distawrwydd
  Ar Dy adlais ddistaw, fain,
Ac fe neidia o orfoledd
  Pan y clywo'th nefol sain.

Mae Dy air yn rhoi distawrwydd
  Ar holl fwrfais wag y byd,
Yn gwastatu pob rhyw derfysg
  Fago
      nwydau croes ynghyd.
Y mae'r gwynt yn troi i'r dehau
  Ac mae'r hin yn dawel iawn
Pan bo'm Duw'n cyhoeddi heddwch -
  Er mor arwed bu'r prynhawn.
Tyr'd am hyny maes o law :: Pan y byddoch di gerllaw
fuddugoliaeth lawn :: fuddugoliaeth wiw
gogoniant fore a nawn :: gogoniant oll fy Nuw
It' wneyd :: Am it' wneud
Swnio maes :: Seinio mawl
wyf yn gyflawn :: wyf yn gyfiawn
mor wanned :: mor egwan
ddistaw, fain :: ddistaw main
Mae Dy air :: Mae Dy lais
fwrfais wag :: ddwnder gwag
dehau :: deau
Pan bo :: Pan fo
mor arwed bu :: mor arw fu

William Williams 1717-91

Tonau [8787D]:
Alexander (John Roberts 1806-79)
Dismission (W F Wade c.1711-86)
Dusseldorf (F Mendelssohn / J Roberts)
Jewin Street (<1835)
Innocence (Ellis Edwards 1844-1915)
Landsberg (<1876)
Llansannan (alaw Gymreig)

gwelir:
  Capten mawr ein hiechydwriaeth
  Clywch yr udgorn fel mae'n seinio
  Deued pechaduriaid truain
  Iesu yn unig yw fy mywyd
  Marchog Iesu yn llwyddiannus
  Mewn anialwch 'rwyf yn trigo
  Nid fy nef yw ar y ddaear
  O llefara addfwyn Iesu
  Priod y drag'wyddol hanfod
  Tyred Arglwydd tyr'd yn fuan (Dyro'n helaeth ...)

Jesus, great fullness of the heavens,
  Hear the cry of a feeble, weak one,
Who is lying by Thy throne
  And raising up a cry:
In thy full salvation,
  Though I am so weak now,
I am to get seen some day,
  Shining like the dawn.

A sea there is within thee of blessings,
  Without there being any bottom to it:
It flows forever from thy virtue,
  There is no end to thy praise;
Thy name daily is spreading out,
  Like the light of the morning dawn;
There will be harps singing to thee,
  Forever, numerous as the grass of earth.

                 - - - - -

 

Jesus, great fullness of the heavens,
  Hear the cry of a feeble, weak one,
Who is lying by Thy throne
  And raising up his cry:
My enemies without number are
  Striking me from every side
And there is none who can save me
  Under the heavens but Thee.

In thy wounds there is life,
  The holes of the nails are my nest,
I shall not fear world, or flesh, or sin,
  Nor guilt there forever:
The blood of my Spouse spilled,
  The great gash of the spear,
Are my rock and my city of refuge,
  Sure on this earth.

Yonder is the only firm
  Medicine for pitiful man;
Every hope has expired,
  Apart from him himself,
Heavy and oppressive is my burden,
  The pain of guilt is great,
There is nowhere but the summit of Calvary,
  Where I can lay my head down.

Happy is one who is thy merit,
  There is no fear there,
But joy, peace, and love,
  All in all carrying the day.
A perpetual feast is thy company,
  Far above all man's understanding,
Except those who got to experience it,
  By thy own Spirit.

In thy breast there is safety,
  There is no other in any place;
Nor is great hell beating,
  Nor am I completely weak.
Bring me to stay there cheerfully,
  Not flitting here and there,
Lead a feeble one across the hills
  Like a Spouse, in thy hand.

Ride, Jesus, successfully,
  Wear thy sword on thy thigh,
The earth cannot withstand thee,
  Neither can great hell itself:
Thy name is so excellent,
  Every enemy shall retreat yonder;
The horror of thee is throughout creation,
  Come therefore soon.

And therefore thou shalt get the name,
  Thou shalt get the full victory,
Thou shalt get the praise,
    the strength, and the power,
  And the glory morning and evening;
Saints and angels and pure cherubim
  Shall get as one,
To sound out for eternity,
  That thou didst make a camp with man.

                 - - - - -

 

Jesus, great fullness of the heavens,
  Hear the cry of a feeble, weak one,
Who is lying by Thy throne
  And raising up his cry:
My enemies without number are
  Are striking me from every side
And there is none who can save me
  Under the heavens but Thee.

In Thy merits I am complete,
  In Thy light I see clearly,
In thy divine garments, shining,
  I will be gloriously pure:
In Thy complete salvation,
  Although I am weak now,
I may be seen some day
  Shining like the dawn.

Say the word, my gentle Jesus,
  The my soul will rejoice -
A word of promise may cure me
  Of every sin, of every disease.
Hear my soul in silence
  At Thy still, small voice,
And it leaps from rejoicing
  When it hears thy heavenly sound.

Thy word is bestowing quietness
  On all the empty babble of the world,
To calm every kind of tumult
  That would nurture
      adverse passions together.
The wind is turning to the south
  And the weather is very still
When my God announces peace -
  Although the afternoon was so inclement.
Come therefore soon :: When thou art at hand
full victory :: worthy victory
glory morning and evening :: all the glory of my God
That thou didst make :: For thou didst make
To sound out :: The sound praise
I am complete :: I am justified
 
 
Thy word is :: Thy voice is
empty babble :: empty clamour
::
::
::

tr. 2008,14 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~