Gwna ni fel halen [â / trwy] Dy râs

1,2,(3,4).
(Yr Eglwys - Cyssegriad)
Gwna ni fel halen â Dy râs,
Yn wỳn, yn beraidd iawn ei flâs,
  Yn foddion yn Dy law o hyd
  I dynu'r adflas
      sy ar y byd.

Gwna fod D'ogoniant pur, di-lŷth,
Yn nôd a diben ini byth;
  Dy fywyd hardd, a'th eiriau gwir,
  Yn wastad ini'n rheol bur.

O! dena'n serch oddi yma i gyd,
Fel gwir ddieithriaid yn y byd,
  O fan i fan i deithio'n hy',
  Bob pryd ar ôl D'orch'mynion Di.

Doed gogledd, de, a dwyrain bell,
I glywed y newyddion gwell;
  Aed sŵn D'efengyl,
      Iesu, i maes
  Yn gylch o ddeutu'r ddaear las.
â Dy râs :: trwy Dy râs

William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Babilon (Thomas Campion 1567-1620)
  Brecon (Gardiner's Sacred Melodies 1815)
Leipsic/Neumark (Georg Neumark 1621-81)
Menai (Psalmydd Playford 1671)

gwelir:
  Newyddion braf a ddaeth i'n bro
  Pererin wyf tua Salem bur
  'Rym yn dy erfyn Arglwydd mawr

(The Church - Consecration)
Make us like salt with Thy grace,
White, very sweet its taste,
  Medicine in thy hand always
  To remove the bad taste
      which is on the world.

Make Thy pure, unfailing glory be
A mark and purpose for us forever;
  Thy beautiful life, and thy true words,
  Constantly for us a pure rule.

O attract all our affection from here,
Like true strangers in the world,
  From place to place to travel boldly,
  Every time according to Thy command.

May north, south, and far east come,
To hear the better news;
  May the sound of Thy gospel,
      Jesus, go out
  As a circle around the blue-green earth.
with Thy grace :: through Thy grace

tr. 2017 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~