Fy Iesu atat 'r wyf yn d'od

1,2,3,(4),5.
(Gweddi am sancteiddrwydd)
Fy Iesu, atat 'r wyf yn d'od,
Y truenusaf ddyn erioed,
  I ymguddio dàn Dy aden glŷd,
  Dàn demtasiynau maith y byd.

'Does unrhyw gyflwr, unrhyw fàn,
Heb dorf yn curo ar f'enaid gwàn;
  Ond er Dy ogoniant, Arglwydd cun,
  Lladd Dy elynion câs Dy Hun.

Gwisg fi â'r fantell ddisglaer iawn
A wnaed ar Galfari brydnawn;
  A golch aneirif feiau f'oes
  Yn nwfr pur a gwaed y groes.

Mae'm dyddiau'n treulio o awr i awr,
Nesau mae trag'wyddoldeb mawr;
  Gad i mi wel'd yn oleu clir,
  Wrth fyn'd o'r byd,
      dy wyneb pur.

Gwasgara y cymylau sydd
Yn cadw'th nefol wedd yn nghudd;
  A nertha fi â'th
      hyfryd hedd,
  Yn erbyn ofnau, angeu, a'r bedd.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Ceredigion (alaw Ellmynig)
Leipsic (Georg C Neumark 1621-81)
Melindwr (<1869)

(Prayer for sanctification)
My Jesus, to thee I am coming,
The most wretched man ever,
  To hide myself under thy secure wings,
  Under the vast temptations of the world.

There is no condition, no place,
Without a throng beating on my weak soul;
  But for thy glory's sake, dear Lord,
  Kill thy detestable enemies thyself.

Clothe me with the very radiant robe
Made on Calvary one afternoon;
  And wash my life's innumerable faults
  In the pure water and blood of the cross.

My days are being spent from hour to hour,
Drawing near is great eternity;
  Let me see in clear light,
  While going from the world,
      thy pure face.

Scatter the clouds which are
Keeping thy heavenly countenance hidden;
  And strengthen me with
      thy delightful peace,
  Against fears, death, and the grave.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~