Fe roed imi ddymuniadau Nad oes dim o fewn y byd, Yn y dwyrain na'r gorllewin A all hanner llanw 'mryd: Tragwyddoldeb, Yno llenwir fi yn llawn. Mi gaf yno garu a fynnwyf, Cariad perffaith, pur, di-drai; Cariad drwy ryw oesoedd mawrion Nad â fymryn bach yn llai: Môr diderfyn, Byth yn berffaith, byth yn llawn. Mi gaf yno weld a garwyf, Gweld fy Iesu, gweld fy Nuw, Gynt fu farw ar y croesbren, Heddiw'n ddisglair, heddiw'n fyw: Nef y nefoedd Sydd yn suddo yn ei hedd. Mi gaf yn y wlad 'rwy'n myned Waredigaeth lwyr o'm poen; Gorphwys draw i derfyn gofid Gyda'r addfwyn, anwyl Oen: Ni ddaw tristwch, Fyth i mewn dros furiau'r nef.William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: Rhan I - Nid oes draw gyferbyn imi |
May he grant my desires There is nothing within the world, In the east nor in the west Which can half fill my intent: Eternity, That's where I am filled fully. There I will get loved which I demand, Perfect, pure, unebbing love; Love through some vast ages Not with a little moment less: An endless sea, Forever perfect, forever full. There I will get to see what I love, To see my Jesus, to see my God, Who once died on the cross, Today shining, today alive: Heaven of heavens Which sinks in his peace. I will get in the land I am going Complete deliverance from my pain; To rest yonder at the end of grief With the gentle, dear Lamb: No sorrow will come, Ever in across the walls of heaven.tr. 2010 Richard B Gillion |
|