Fe gynnygiodd dyfroedd lawer

1,2,3,4,5,6;  1,2,3,5.
(Duw ei Hunan)
Fe gynnygiodd dyfroedd lawer -
  Dyfroedd dyfnion mawr eu grym,
Oeri'm cariad tuag atat;
  Gras, mae'n debyg, ddiffodd ddim:
    Rhan o'th natur
  Yw, wy'n deimlo ynwy' f'hun.

Eisieu'th wel'd, yr wyf mor llwfr,
  Eisieu'th wel'd, yr wyf mor wan;
Golwg ar dy wyneb hyfryd
  Gwyd yr eiddil cloff i'r lan:
    Dwfr bywiol
  Ydwyt i'r lluddedig rai.

'Does gyff'lybiaeth îs y nefoedd
  All yn gywir draethu maes
Ddistaw, ddirgel, bur brofiadau,
  Ac och'neidiau'th nefol ras:
    Mi wn ronyn
  Wrth beth ydwyf beth a ddaw.

Y mae cyfoeth a gogoniant
  A pherth'nasau yn gyttûn,
A phleserau o bob rhywiau'n
  Colli eu henwau wrth dy glun:
    I dy ganlyn
  Fe'u gadawaf oll yn ol.

Rhof ffarwel i'r holl greadigaeth;
  Ffarwel, feusydd gwych eu rhyw,
Ffarwel, deiau teg yr olwg,
  Ffarwel, ddynion goreu'n fyw:
    Gwych gyfnewid,
  Duw ei hunan yn lle'r byd.

Beth wyf gwaeth pe llyncai'r moroedd
  Ddaear eang yn eu croth?
Beth wyf gwaeth pe doi gwaelodion
  Dyfroedd mawr yn berffaith noeth?
    Beth yw colli
  Môr a daear, ond cael Duw?
William Williams 1717-91

Tonau [878747]:
    Edlingham (E J Hopkins)
    Lewes (John Randall 1717-99)
    Litany (W Newport)
    Verona (alaw Eidalaidd)

gwelir:
  Gyrwch fi i eithaf t'wyllwch
  Nid oes eisiau un creadur

(God Himself)
Many waters attempted -
  Deep waters of great force,
To chill my heart towards thee;
  Grace, it is likely, extinguished anything:
    Part of thy nature
  It is, I am feeling in me myself.

Need to see thee, I am so fainthearted,
  Neet to see thee, I am so weak;
A sight of thy delightful face
  Will raise the feeble, lame one up:
    Living water
  Thou art to the exhausted ones.

There is no likeness under the heavens
  Which can truly set out
Quiet, secret, pure experiences,
  And groans of thy heavenly grace:
    I know a grain
  Beside what I shall of what is to come.

There are riches and glory
  And properties in agreement,
And pleasures of all kinds
  Losing their names beside thy thigh:
    To follow thee
  I will leave them all behind.

I will bid farewell to the whole creation;
  Farewell, fields of a brilliant sort,
Farewell, houses of fair appearance,
  Farewell, the best men alive:
    A brilliant exchange,
  God himself in place of the world.

What matter if the seas should swallow
  The wide earth in their womb?
What matter to me if the bottoms of
  Great waters become perfectly bare?
    What is it to lose
  Sea and earth, but to gain God?
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~