Dyro inni dy arweiniad,
Arglwydd, drwy yr oedfa hon;
Rho dy Ysbryd a'i ddylanwad
I'n sancteiddio ger dy fron:
Nefoedd yw dedwydd fyw
Dan dy wenau di, O Dduw.
Byw yng ngwên dy siriol ŵyneb
Ewyllysiwn yn y byd,
A chael oesoedd tragwyddoldeb
I fawrhau dy gariad drud;
Dyro i lawr, yma nawr,
Ernes o'r gyfeillach fawr.
Robert Meigant Jones (Meigant) 1851-99
Tonau [878767]: |
Give us thy guidance,
Lord, through this meeting;
Impart thy Spirit and his influence
To sanctify us before thee:
Heaven it is happily to live
Under thy smiles, O God.
To live in the smile of thy cheerful face
We wish in the world,
And to have eternal ages
To magnify thy dear love;
Give down here, now
An earnest of the great fellowship.
tr. 2009 Richard B Gillion
|
|