Dyma Frawd a an(n)wyd inni

1,(2).
(Brawd erbyn Caledi)
Dyma Frawd a anwyd inni
  Erbyn c'ledi a phob clwy';
Ffyddlon ydyw, llawn tosturi,
  Haeddai gael ei foli'n fwy:
Rhyddhawr caethion, Meddyg cleifion,
  Ffordd i Seion union yw;
Ffynnon loyw, bywyd meirw,
  Arch i gadw dyn yw Duw.

Efe yw'r Iawn fu rhwng y lladron,
  Dyoddefodd yno angeu loes,
Nerthodd freichiau ei ddienyddwyr
  I'w hoelio'n greulon ar y groes;
Talodd ddyled pechaduriaid,
  Anrhydeddodd ddeddf ei Dad,
Cyfiawnder sydd yn hardd-ddysgleirio,
  A ninnau'n rhydd trwy'r cymmod rhad.
Ann Griffiths 1776-1805

Tonau [8787D]:
Deerhurst (James Langran 1835-1909)
Edinburgh (1840 Caniadau Seion)
Hyfrydol (R H Prichard 1811-87)
Llangan (alaw Gymraeg)

gwelir:
  Draw ar gopa bryn Golgotha
  Dyma babell y cyfammod
  'Fe yw'r Iawn fu rhwng y lladron
  Nid eill moroedd mawrion llydain
  O am fywyd o Sancteiddio
  O ddyfnderoedd iachawdwriaeth
  Rhyfedd rhyfedd gan angylion
  Teilwng teilwng i'w addoli

(A Brother against Hardship)
Here is a Brother who was born to us
  Against hardship and every ailment;
Faithful is he, full of mercy
  Worthy of being praised more:
Freer of captives, Physician of the sick,
  A direct way to Zion he is;
A bright spring, life of the dead,
  An ark to save man is God.

Efe yw'r Iawn fu rhwng y lladron,
  Dyoddefodd yno angeu loes,
Nerthodd freichiau ei ddienyddwyr
  I'w hoelio'n greulon ar y groes;
Talodd ddyled pechaduriaid,
  Anrhydeddodd ddeddf ei Dad,
Cyfiawnder sydd yn hardd-ddysgleirio,
  A ninnau'n rhydd trwy'r cymmod rhad.
tr. 2009,17 Richard B Gillion
 
Born as man to be our Brother,
  He will guard from every ill,
Faithful, true, and full of pity,
  Let his praise swell louder still!
He, the road which lead to Zion,
  Heals the sick, and frees the slave,
Spring of life, the dead restoring,
  Christ the Ark, mankind to save.









tr. M J H Ellis (Monti)
used by kind permission of the author

Tune [8787D]: Prysgol (William Owen 1813-93)

also: Lo, to us is born a Brother
    tr. H A Hodges 1905-76

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~