Disgyn Iesu o'th gynteddoedd

1,2,(3,4).
Disgyn, Iesu, o'th gynteddoedd,
  Lle mae moroedd mawr o hedd;
Gwêl bechadur sydd yn gorwedd
  Ar ymylon oer y bedd;
    Rho i mi brofi
  Pethau nad adnabu'r byd.

Rho oleuni, rho ddoethineb,
  Rho dangnefedd f'o'n parhau,
Rho lawenydd heb ddim diwedd,
  Rho faddeuant am bob bai;
    Triged D'Ysbryd
  Yn Ei deml dan fy mron.

Ynot mae fy iechydwriaeth,
  Ynteu yn wir mi lwfwrhawn;
Ac mae'r poenau a ddioddefaist
  Ar Galfaria yn berffaith Iawn
    Tros bechodau
  'R pechaduriaid dua eu lliw.

Yn y ffynon hon agorwyd
  Yn Dy ystlys ar y pren,
'R wyf fi'n d'od, â'm gwisg yn aflan,
  Idd ei chànu'n awr yn wen:
    Mi ddôf allan,
  Fel yr eira ar y bryn.
William Williams 1717-91

Tonau [878747]:
Ardudwy (John Roberts 1822-77)
Catherine (David Roberts 1820-72)
Hapus Dyrfa (David Jenkins 1848-1915)
Hyder (Richard Ellis 1775-1855)
StHildebert (alaw Regoraidd)

gwelir:
  Rho oleuni rho ddoethineb
  Wrth dy orsedd 'r wyf yn gorphwys

Descend, Jesus, from thy courts,
  Where there are great seas of peace;
See a sinner who is lying
  On the cold brink of the grave;
    Grant me to experience
  Things the world does not know.

Give light, give wisdom,
  Give peace which will endure,
Give joy without any end,
  Give forgiveness for every fault;
    May Thy Spirit reside
  In His temple beneath my breast.

In thee is my salvation,
  Or else I would truly lose heart;
And the pains thou didst suffer
  On Calvary as a perfect Atonement
    For the sins
  Of the sinners of blackest colour.

In this fount opened
  In Thy side on the tree,
I am coming, with my clothing dirty,
  To its bleaching white now:
    I will come out,
  Like the snow on the hill.
tr. 2013,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~