Dal fi fy Nuw dal fi i'r làn
Dal fi fy Nuw dal fi 'mhob man

(Nerth mewn Cymdeithas â Duw)
1,2,(3),4,7;  1,2,3,5,7;  1,2,(4),5,7;
1,2,4,6;  1,2,5;  1,4.
Dal fi, fy Nuw, dal fi i'r làn,
'N enwedig dal fi lle 'rwy'n wan;
  Dal fi yn gryf nes mynd i maes
  O'r byd sy'n llawn
      o bechod cas.

Gwna fi'n gyfoethog ymhob dawn,
Gwna fi fel halen peraidd iawn,
  Gwna fi fel seren olau wiw
  'N disgleirio yn y byd 'rwy'n byw.

Gwna imi wel'd mai Ti yw'm rhan,
Gâd imi'th ganfod yn mhob man;
  Gâd imi'n wastad blygu lawr,
  I'th lân ewyllys bob yr awr.

Dysg fi mewn gorthrymderau trist
I bwyso ar f'anwylaf Grist;
  Dysg fi, wrth fyn'd
      o'r byd i maes,
  I gario'r dydd ar angeu glas.

Dysg fi, fy Nuw, dysg im pa fodd
I ddweud a gwneuthur wrth dy fodd;
  Dysg im ryfela
      a'r ddraig heb goll,
  A dysg im goncro 'mhechod oll.

Pa'm carai'r byd
    a'i wagedd mwy,
Hyd angeu'n brin y deuant hwy;
  Gwell i mi garu'r
      ffrynd a ddaw,
  Yn angeu i 'maflyd yn fy llaw.

Tra caffwyf rodio'r ddaear hon
Rho dy dangnefedd dan fy mron;
  Ac yn y diwedd moes dy law
  I'm dwyn i mewn i'r nefoedd draw.

              - - - - -
(Deisyfiad am gynnaliaeth ysbrydol)
Dal fi fy Nuw, dal fi i'r lan,
'N enwedig dal fi lle'r wy'n wàn;
  Dal fi yn gryf, nes myn'd i ma's,
  O'r byd sy'n llawn
      o bechod câs.

Dysg fi mhob man, dysg fi pa fodd,
I ddweud a gwneuthur wrth dy fodd;
  Dysg fi ryfela'r
      ddraig heb goll,
  Ac i orchfygu mhechod oll.

Pan gwelych di fi'n crymu 'mhen,
At unrhyw wrthrych îs y nen;
  O dangos im' na thâl yr un,
  I'w garu byth ond ti dy hun.

'Does ond y fraich a wnaeth y byd,
A'm cynnal ar fy nhaith o hyd;
  Mae'n abl er tymhestlodd fil,
  I'm cadw ar y llwybr cul.

              - - - - -
(Hiraeth am burdeb)
Dal fi fy Nuw, dal fi i'r lan,
'N enwedig dal fi lle 'rwy'n wan:
  Dal fi yn gryf nes myn'd i maes,
  O'r byd sy'n llawn
      o bechod câs.

Bryd cai ddinystrio'm delwau'n llawn,
Sy am lechu danai'n ddirgel iawn:
  Llabyddio Agag yn ddi barch,
  A Dagon gwympo o flaen yr Arch.

O anwyl Iesu brysia bydd,
Yn awr fel iwrch neu lwdn hŷdd,
  O tyr'd ar frys a chluda i lawr,
  Fy holl elynion fach a mawr.

Can mîl o weithiau gwyn fy myd,
Gai goncwest ar fy meiau i gyd;
  Gael bod yn bur trwy nefol ras,
  A darfod son am bechod cas.

               - - - - -
(Gweddi am Gymhorth)
Dal fi, fy Nuw, dal fi i'r lan,
'N enwedig dal fi pan b'wy'n wan;
  Nes myn'd yn lân,
      dal fi â'th ras,
  O'r byd sy'n llawn
      o bechod câs.

Rho win ac olew yn fy mriw,
Gwisg fi yn dêg â delw Duw;
  A thyn fi'n llon i blith y llu
  Sy'n ddysglaer yn y nefoedd fry.

Caf yno lechu'n dawel, glyd,
O sŵn y boen
    sydd yn y byd;
  A'm nefoedd byth
      yn nef y nef
  Fydd edrych ar ei wyneb Ef.

                    - - - - -
1,2,3,4,5,6,7,8;  1,2,4,8;  1,2,7,5,6,9;  1,2,9,8.
Dal fi, fy Nuw, dal fi i'r làn,
'N enwedig dal fi pan bwi'n wan;
  Nes myn'd yn lân, (da fi â'th ras,)
  O'r byd sy'n llawn
      o bechod câs.

Gwna fi fel halen trwy dy râs,
Yn wyn, yn beraidd iawn ei flas;
  Yn foddion yn dy law o hyd,
  I dynu'r adflas oddiar y fyd.

O deued dydd yr India i ben,
I wel'd yr hwn fu ar y pren;
  A ninnau'n un, yn un â hwy,
  Yn canu am ei farwol glwy'.

Amen, amen, boed môr a thîr,
Mewn perffaith hêdd, mewn cariad gwîr,
  Heb ganddynt bleser o un rhyw,
  Ond caru'n Iesu mawr a'n Duw.

Mi af ymlaen er t'wylled yw,
I'r wlad 'rwy am fyn'd iddi fyw;
  Fe gwyd y wawr
      mae addewid nef,
  Y câf fyn'd adre' ato ef.

Ond boed fy nghlustiau'n gwrando o hyd
Ddirgelion dystaw nefol fyd;
  A'm pleser unig, ddydd a nos,
  Yn nyfnion wirioneddau'r groes.

Pan gaffwyf wel'd ei nefol wêdd,
A phrofi blâs ei ddwfol hêdd;
  'Dwi'n gwel'd gogoniant mwya'r byd,
  Ond peth annheilwng o fy mryd.

Doed gogledd, dê, a dwyrain bell,
I glywed y newyddion gwell;
  A thaened swn
      efengyl gras,
  Yn gylch oddeutu'r ddaear lâs.

Amen, amen, boed môr a thir
Mewn perffaith hedd, mewn cariad gwir
  Heb ganddynt blser o un rhyw
  Ond caru Iesu mawr a'u Duw.
dal fi i'r lan :: dal fi 'mhob man
'N disgleirio :: 'Ddysgleirio
Gwna imi wel'd :: Gâd i mi wel'd
Dysg fi mewn :: Dysg im, mewn
Dysg fi, fy :: Dysg im, fy
Tra caffwyf rhodio :: Tra fyddwy'n rhodio

William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Addoliad (Joseph Parry 1841-1903)
Angel's Song (Orlando Gibbons 1583-1625)
Arizona (R H Earnshaw 1856-1929)
Babilon (Jacques de Champion 1600-72)
Bryndioddef / Bryn-dyoddef (D Emlyn Evans 1843-1913)
Brynteg (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Carey (Henry Carey 1685-1743)
Emporia (anadnabyddus)
Emyn Luther (Martin Luther 1483-1546)
Exeter (William Dorrell 1810-1896)
  Glanywern (J Rhyddid Williams)
Golgotha (John B Dykes 1823-76)
Llef (Gutyn Arfon 1849-1919)
Marsden (C MacFarlane 1785-1853)
Melcombe (Samuel Webbe 1740-1816)
Nantglyn (<1875)
Neumark / Leipsig (Georg Neumark 1621-81)
Pool-Street (<1829)
St Cross (John B Dykes 1823-76)
St Sepulchre (George Cooper 1820-76)
Tiberias (<1876)

gwelir:
  Rhan I: Tra yn dy gwmni f'Arglwydd mawr
  Beth dâl im' roi fy serch a'm bryd
  'Does dim o gylch yr awyr fry
  Dowch addewidion dowch yn awr
  Dysg fi fy Nuw dysg fi pa fodd
  Mi âf yn mlaen er pelled yw
  Newyddion braf a ddaeth i'n bro
  O Arglwydd gwna fi'n golofn gre'
  O deued dydd yr India i ben
  O tyred Iesu cyn del nos
  Oen Duw trag'wyddol Fab y Tad
  Pan adnabyddwyf iaith y wlad
  Pwy wrendy riddfan f'enaid gwan?
  'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy'
  Rho imi wel'd mai Ti yw'm hedd
  Tydi fy Nuw tydi dy hun
  Un llais un swn un enw pur
  Yn ddistaw disgwyl f'enaid prudd

(Strength within Fellowship with God)
 
 
Hold me, my God, hold me up,
Especially hold me where I am weak;
  Hold me strongly until I go away
  From the world which is full
     of hateful sin.

Make me rich in every gift,
Make me like very sweet salt,
  Make me like a worthy star of light
  Shining in the world while I am alive.

Make me see that Thou art my portion,
Let me find thee in every place;
  Let me always bend down,
  To thy holy will every hour.

Teach me in sad afflictions
To lean on my dearest Christ;
  Teach me, while going
      from the world into the field,
  To carry the day over bitter death.

Teach me, my God, teach me how
To speak and act according to thy pleasure;
  Teach me to fight
      with the dragon without loss,
  And teach me to conquer all my sin.

Why should I love the world
    and its emptiness any more,
Until death scarcely take them;
  Better for me to love
      the friend who is coming,
  In death to take hold of my hand.

While I get to travel this earth
Give thy peace under my breast;
  And in the end lend thy hand
  To lead me inside yonder heaven.

                 - - - - -
(Petition for spiritual support)
Hold me my God, hold me up,
Especially hold me where I am weak;
  Hold me strongly, until I come out,
  Of the world which is full
      of hateful sin.

Teach me everywhere, teach me how,
To speak and do according to thy pleasure;
  Teach me to battle the
      dragon without loss,
  And to overcome all my sin.

When thou see me bowing my head,
To any object beneath the sky;
  O show me that not one does pay,
  Ever to be loved but thee thyself.

There is only thy arm which made the world,
That will support me on my journey always;
  It is able, despite a thousand tempests,
  To keep me on the narrow path.

                 - - - - -
(Longing for Purity)
Hold me my God, hold me up,
Especially hold me where I am weak:
  Hold me strongly until I come out,
  Of the world which is full
      of hateful sin.

When shall I get to destroy my idols fully,
That want to lurk under me very secretly:
  To stone Agag dishonourably,
  And Dagon fall before the ark.

O dear Jesus hurry to be,
Now like a stag or a young hind,
  O come hurriedly and bring down,
  All my enemies small and great.

A thousand times blessed am I,
To get victory over all my faults;
  To get to be pure through heavenly grace,
  And mention cease about hateful sin.

                 - - - - -
(Prayer for Support)
Hold me, my God, hold me up,
Especially hold me whenever I am weak;
  Until I go cleanly,
      keep me with thy grace,
  From the world which is full
      of hateful sin.

Put wine and oil in my wound,
Dress me finely with God's image;
  And draw me cheerfully among the host
  Which is shining in the heavens above.

I may have there hiding quietly, cosy,
From the sound of the anguish
    which is in the world;
  And my heavens forever
      in the heaven of heaven
  Shall be to look upon His face.

                  - - - - -
 
Hold me, my God, hold me up,
Especially hold me whenever I am weak;
  Until I go cleanly, keep me with thy grace,
  From the world which is full
      of hateful sin.

Make me like salt through thy grace,
White, very sweet its taste;
  As medicine in thy hand always,
  To draw the bad taste from the world.

O may the day of India come to pass,
To see him who was on the tree;
  And we too as one, as one with them,
  Singing about his mortal wound.

Amen, Amen, let sea and land be
In perfect peace, in true love,
  Without having pleasure of any kind
  But the love of the great Jesus and our God.

I will go forward although it is dark,
To the land I am going to live in;
  The dawn will rise
      it is the promise of heaven,
  I shall go home to him.

But may my ears be listening always
To the quiet secrets of a heavenly world;
  And my only pleasure, day and night,
  In the deep truths of the cross.

When I get to see his heavenly face,
And experience the taste of his divine peace;
  I will see the greatest glory of the world,
  As but a thing unworthy of my attention.

Let North, South, and distant East, come
To hear the better news;
  And let the sound
      of the gospel of grace spread,
  As a circle around the blue-green earth.

Amen, amen, let sea and land be
In perfect peace, in true love
  Without their having pleasure of any kind 
  But loving great Jesus and their God.
hold me up :: hold me everywhere
Shining :: To shine
Make me see :: Let me see
::
::
While I get to travel :: While I am travelling

tr. 2008,22 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~