Cryfach addewid Duw

1,2,3;  1,3,4.
(Nerth yr addewid)
Cryfach addewid Duw
Na'r pechod gwaetha'i ryw -
  Ni saif ef ddim;
'Dyw natur gadarn gref
Ond dim i dân y nef;
Mae gair o'i enau ef
  Yn fwy ei rym.

Yn awr 'rwy'n llawenhau
Mewn gobaith am fwynhau
  Y goncwest glir
Ar bechod o bob rhyw,
Gelynion gwaetha'n fyw,
Sy'n rhwystro f'enaid gwiw
  I'r sanctaidd dir.

Fy meiau, fân a mawr,
Sydd raid eu cael i lawr,
  Cyn byddo hir;
Fe fyn cyfreithiau'r ne'
I dynu'r llygad de,
A thori'r fraich o'i lle -
  Ei air sydd wir.

Rhaid rhoddi ffarwel glân
I'n chwantau, fawr a mân -
  Pleser i gyd;
Caf bleser maes o law,
Yn nhragwyddoldeb draw,
Ei fath ni fu, ni ddaw,
  Gan fawrion byd.
William Williams 1717-91

Tonau [664.6664]:
Bethel (John Roberts 1822-77)
England (<1835)
Malvern (Henry J Gauntlett 1805-76)
Weston (Arthur E Dyer 1843- )

gwelir:
  Gwnes addunedau fil
  O tyred Awdwr hedd (Rho ...)
  Wel f'enaid dos yn mlaen

(The Strength of the Promise)
Stronger the promise of God
Than the sin of the worst kind -
  Nothing shall stand against it;
Firm, strong nature is
Only nothing under heaven;
A word from his mouth is
  Of greater force.

Now I am rejoicing
In hope of enjoying
  The clear victory
Over sin of every kind,
The worst enemies alive,
That are obstructing my worthy soul's way
  To the sacred land.

My faults, small and great,
Need to be brought down,
  Before long;
The law of heaven demands
To pluck out the right eye,
And cut the arm from its place -
  His word is true.

There is need to bid farewell totally
To our lusts, small and great -
  All pleasure;
I shall have pleasure soon,
In eternity yonder,
Its like was not, nor shall come
  From the great ones of the world.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~