Ar(h)osaf ddydd a nôs

Arosaf ddydd a nôs,
Byth bellach dàn Dy groes,
  I'th lòn fwynhau;
Mi ŵn mai'r taliad hyn,
Wnaed ar Galfaria fryn,
A'm càna oll yn wỳn, 
  Oddi wrth fy mai.

Yn nyfnder dŵr a than,
Calfaria fydd fy nghân,
  Calfaria mwy:
Y bryn ordeiniodd Duw
Yn nhragwyddoldeb yw
I g'odi'r marw'n fyw,
  Trwy farwol glwy'.

Âf bellach tua'r wlad
Bwrcaswyd imi â gwaed;
  'R wyf yn nesâu:
Câf yno oll i'm rhan
Sydd eisieu ar f'enaid gwàn,
A hyny yn y man,
  I'w bur fwynhau.
William Williams 1717-91
Môr o Wydr 1763

Tonau [664.6664]:
Harlan/Olivet (Lowell Mason 1792-1872)
Malvern (alaw Seisnig)
Moscow (Felice de Giardini 1716-96)

gwelir:
  Iachawdwr dynolryw
  O tyred Arglwydd mawr (Dihidla o'r nef i lawr)
  Yn nyfnder dŵr a than

I will abide day and night,
Forever henceforth under Thy cross,
  Cheerfully to enjoy thee;
I know that this payment,
Was got on Calfary hill,
And bleached me all white,
  From my sin.

In the depth of water and fire,
Calvary shall be my song,
  Calvary evermore:
The hill God ordained
In eternity it is
To raise the dead alive,
  Through a mortal wound.

I will go henceforth towards the land
Purchased for me with blood;
  I am drawing near:
I will get there all to my part
Which is necessary for my weak soul,
And this soon,
  Purely to enjoy it.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~