Anwylaf wrthddrych/wrthrych f'enaid drud

(Am bresenoldeb Duw)
Anwylaf wrthrych f'enaid drud,
Fy holl hyfrydwch yn y byd,
  Na 'mâd â mi, un eiddil gwàn,
  Sy'n teimlo'th
      eisieu yn mhob màn.

O! aros yma 'ngwrês y dydd;
Fy nghystudd yn chwanegu sydd;
  Yn griddfan 'r wyf o dàn y groes;
  Pa bryd y ffŷ cymylau'r nôs?

O! aros nes daw'r seren sydd
Yn arwain hyfryd oleu'r dydd,
  A ch'odi'r haul oleuwen glir
  Sy'n dangos bryniau Salem dir.

              - - - - -

Anwylaf wrthrych f'enaid drud,
Fy holl hyfrydwch yn y byd,
  Na 'mad â mi, yr wyf mor wan,
  'Rwy'n teimlo'th eisieu yn mhob màn.

Fy nghystudd yn chwanegu sydd,
Rho nerth i ddal
    yn ngwres y dydd;
  Yr wyf yn griddfan tan y groes,
  Ond diolch nad' yw'n fythol loes.

F'anwylyd rho dy wyneb pur,
'Doed gan y byd un pleser gwir;
  Holl obaith a holl gysur dyn,
  Sy'n gyflawn ynot ti dy hun.

Can's yn dy absenoldeb mae,
Pob peth pryd hyn yn troi yn wae;
  'Does dim rydd gysur im' wrth fyw,
  Ond cael dy gwm'ni O fy Nuw.

              - - - - -

Anwylaf wrthddrych f'enaid drud,
Fy holl hyfrydwch yn y byd;
  Na 'mad â mi sydd eiddil gwan,
  Yn teimlo'th eisieu yn mhob màn.

O! aros yma 'ngwres y dydd,
Fy nghystudd yn chwanegu sydd;
  Aros, - 'rwy'n gruddfan dan y gro's,
  Nes ymaith ffoi cymylau'r nos.

F'anwylyd, tro dy wyneb pur,
'Does gan y byd un pleser gwir;
  Pob gobaith a phob cysur cun,
  Sy'n aros ynot ti dy hun.

Ond yn dy absenoldeb mae
'R pleserau goreu yn troi yn wae;
  'Does a'm digona tra f'wyf byw
  Ond profi hyfryd
      hedd fy Nuw.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Brynteg (J A Lloyd 1815-74)
Leipsic (G Neumark / J S Bach)
St Goar (Rhenfel's Hymnal)
Spires (Casgliad Klug 1543)

(For God's Presence)
Dearest object of my precious soul,
All my delight in the world,
  Do not leave me, a feeble weak one,
  Who is feeling the need
      of thee everywhere.

O stay here in the heat of the day;
My affliction increasing is;
  Groaning I am under the cross;
  When shall the clouds of night flee?

O stay near until the star comes which is
Leading the delightful light of day,
  And the bright, clear sun rises
  Which is showing the hills of Salem land.

                - - - - -

Dearest object of my precious soul,
All my delight in the world,
  Do not leave me, I am so weak,
  I am feeling the need of thee everywhere.

My affliction increasing is,
Give strength to hold on
    in the heat of the day;
  I am groaning under the cross,
  But thanks it is not eternal anguish.

My beloved grant thy pure face,
The world has not one true pleasure;
  All the hope and all the comfort of man,
  Is complete in thee thyself.

Since in thy absence is
Everything now turning into woe;
  Nothing gives me pleasure while living,
  But to get thy company, O my God.

                 - - - - -

The dearest object of my precious soul,
All my delight in the world;
  Do not leave me who am feeble, weak,
  Feeling the need of thee in every place.

O stay here in the heat of the day!
My affliction is increasing;
  Stay, - I am groaning under the cross,
  Until the clouds of night flee away.

My beloved, turn thy pur face,
The world has no true pleasure;
  Every hope and every dear comfort,
  Is abiding in thee thyself.

But in thy absence are
The best pleasures turning into woe;
  Nothing satisfies my while I am living
  But experiencing the delightful
      peace of my God.
tr. 2017,21 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~