Yn awr mae Rhagluniaeth fel mammaeth i mi

(Clod Rhagluniaeth)
Yn awr mae Rhagluniaeth
    fel mammaeth i mi,
Gwych osgordd a chysgod
    dda hynod oedd hi;
  Rhagluniaeth ardderchog,
      alluog ei llaw,
  Sy'n cadw fy mywyd
      o'r drygfyd sydd draw.

Pan gyfyd rhyw flinder,
    gorthrwmder a thrais,
Rhagluniaeth galonog,
    alluog ei llais,
  Sy'n darpar rhag niwed
      ymwared i me,
  Er gwaetha'm gelynion,
      rai creulon eu cri.

Ar fronau Rhagluniaeth
    magwraeth a gês:
Gwnaeth ambell orthrymder
    im' lawer o lês;
  Mae dw'r gorthymderau
      im' weithiau'n troi'n win,
  Yn hynod o glasus
      a melus i'm min.

Cael ambell gwpanaid
    i'w hyfed o hwn,
Mi gariaf heb rwgnach
    yn mhellach fy mhwn;
  Bwytâf y dail surion
      yn rhwyddion bob rhyw,
  Wrth gael o'r Oen
      dammaid i f'enaid i fyw.

Os pell o fy nghartre'
    mae'r fangre i mi fyw,
Trwy drefniad Rhaguniaeth
    fwyn odiaeth fy New,
  Tan dirion gadwraeth
      Rhagluniaeth o'm gwlad,
  Defnyddied fi'n addas
      yn nheyrnas fy Nhad.
dyfynwyd 1832 gan   |   quoted 1832 by
Thomas Edwards
hen ffrind   |   an old friend of
Edward Jones 1761-1836
i   |   to
Edward Jones mab   |   Edward Jones the son of
Edward Jones 1761-1836
(The Praise of Providence)
Now Providence is like
    a foster-mother to me,
A brave bodyguard and remarkably
    good shelter she is;
  Exceptional Providence,
      powerful her hand,
  It is, who keeps my life
      from the evil world which is yonder.

When some affliction,
    oppression or assault arises,
Hearty Providence,
    powerful her voice,
  Is preparing from harm
      deliverance for me,
  Despite how bad are my enemies,
      some cruel their cry.

On the breasts of Providence
    a nurturing I got:
She made many an oppression
    much of benefit to me;
  The water of oppression for me
     she sometimes turns to wine,
  Remarkably tasty
     and sweet to my lip.

To get many a cupful
    to drink from this,
I love without grumbling
    henceforth my load;
  I shall eat the bitter leaves
      as gifts every kind,
  While getting from the Lamb
      a morsel for my soul to live.

If far from my home
    is the site for me to live,
Through the arrangement of gentle
    Providence from my God,
  Under the tender keeping
      of Providence from my country,
  Let it use me worthily
      in the kingdom of my Father.
tr. 2014 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~