Y Gwylanod

Rhodio glan y môr yr oeddwn

(Y Gwylanod)
Rhodio glan y môr yr oeddwn,
  Meddwl fyth amdanat ti;
Hedai cwmwl o wylanod
  Buain llwyd uwchben y lli.

Troelli'n ebrwydd ar yr adain
  Wnaeth yr adar llwyd-ddu hyn;
Yn y fan, yng ngolau'r heulwen,
  Gwelir hwynt yn ddisglair wyn.

Bu fy nyddiau gynt yn llwydaidd,
  Ac heb lewyrch yn y byd;
T'wynnodd gwawl dy gariad arnynt, -
  Gwyn y golau ŷnt i gyd.

Sir John Morris-Jones 1864-1929

(The Seagulls)
Wandering the seashore I was
  Thinking ever about thee;
A cloud of swift, grey seagulls
  Were flying above the floodtide.

Wheel suddenly on the wing
  Did these grey-black birds;
In a while, in the light of the sunshine,
  They are to be seen shining white.

My days were once greyish,
  And without radiance in the world;
The dawn of thy love shone upon them, -
  White in the light they all are.

tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~