Mae'r adar cynar yn canu - felus

(Englynion myfyrdod y Bardd yn ei wely, wrth glywed yr Adar yn canu. Yr Englynion hyn a gant y Bardd pan oedd yn Athraw-ysgol yn Llanystumdwy. Ebrill 15, 1792.)
Mae'r adar cynar yn canu, - felus
  Wiw foliant i'r Iesu;
  Galwant adeiniog wiwlu,
  Foreuddydd, ar Ddafydd Ddu.

Dyma'r gân, hoywlan yw hi, - gu lawen
  A glywaf o'r llwyni;
  Clyw ein llais, a'n adlais ni; -
  Y Cysgadur, - cais godi!

Clyw ddadgan un rhàn yn rhwydd, - Iaith gofus
  O'th gyfiawn ddyledswydd:
  Dyro fawl, rasusawl swydd;
  Diweirglod i dy ARGLWYDD.

Ym mangoed, glasgoed y glỳn, - Pregethwr
  Pur goeth yw'r aderyn;
  Fe gân glod, hynod yw hyn,
  Boreugerdd, ar y Brigyn.

Minnau, â'm tròm awenydd, - ffaeledig,
  Ffol ydwyf o BRYDYDD:
  Rhŷ sŷch, yn fynych a fydd
  Fy enaid yn EIFIONYDD.

Erfyniaf ar NAF, yn fy nydd, - gu nerth
  Ei gynnorthwy beunydd;
  I dreulio'n iawn, radlawn rydd
  Fy einioes yn EIFIONYDD.

Pan ddêl oes, byroes i ben, - a dŷnir
  Dannedd y genfigen;
  Câf orwedd dan lygredd lèn
  Mor dawel a 'mrawd OWEN.

Af i orwedd at Feirwon, - i gaerau
  O gyrhaedd gelynion;
  Tŷf uwch priddlyd fraedllyd, fròn
  Flodau gwiw lysiau gleision.

Ar bèn yr YWEN ir wedd, - o gariad
  Agorir hiraethgerdd;
  Yr Adar, ar gynar gerdd,
  Dysgysant fy mhriodasgedd.

Daw'n rhwydd ddistawrwydd ystyriawl, - i'r Bod
  Neu'r Abwydyn marwawl;
  Pa ddaear fud, - pwy ddyr fawl
  Yn eigion Bedd unigawl!

Fy enaid, o Dduw cyfiawnaf, - cymmer
  O'm camwedd afflanaf;
  Wyt nawddfawr, un nerthfawr Nâf,
  I dy ddwylaw'r dydd olaf!

David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822
Corph y Gainc 1810

(Meditation verses of the Poet in his bed, while listening to Birds singing. These verses the Poet got when he was a School-teacher in Llanystumdwy. April 15, 1792.)
The birds are early singing, - sweet
  Worthy praise to Jesus;
  A worthy, winged host call
  In the morning, on Dafydd Ddu.

This is the song, vivaciously pure it is, - dearly joyful
  I hear from groves;
  Hear our voice, and our echo; -
  O sleeper, - try to get up!

Hear the expression of one part freely, - a mindful Language
  From thy righteous duty:
  Render praise, a gracious task;
  Pure acclaim to the LORD.
  
In shrubs, greenwood and valley, - a Preacher
  Pure, refined is the bird;
  He sings praise, remarkable is this,
  Morning-song, on the Twig.

I will implore the MASTER, in my nest, - the dear strength
  Of his daily help;
  To spend aright, graciously free
  My lifespan as ONE FROM EIFION.

As for me, with my heavy patience, - failed,
  Foolish am I of a POET:
  Too dry, insistently shall be
  My soul ONE FROM EIFION.

When an age, a short age, come to an end - and to be pulled
  Are the teeth of jealousy;
  I will get to lie under a curtain of corruption
  As quiet as my brother OWEN.

I will go to lie with the Dead, - to fortresses
  Out of the reach of enemies;
  To grow up above an earthy, putrid breast
    Worthy flowers of green herbs.

At the head of the YEW of fresh apprearance - of love
  To be opened is a lamentation;
  The Birds, on early music,
  Teach my nuptial song.

Considerable silence will come easily, - to the Being
  Or the mortal Worm;
  What mute earth, - who will give praise
  In the depths of a lonely Grave!

My soul, O most righteous God, - take
  From my most unclean misdeed;
  Thou art greatly protective, one greatly strong Chief,
  Into thy hands on the last day!

tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~