Eira gwyn ar bob bryn

Eira gwyn ar bob bryn
  A dyffryn hefyd:
O 'dawn i fel tydi,
  Mor ddifrycheulyd:
Ond, mae'n d'od y ca' i fod,
  Er mawr glod Ceidwad,
Yn fwy glān na'r eira mān,
  Yn seinio cān cariad,
Gydag Ef yn y nef,
  Cartref angylion;
Lle mae'r saint
    uwch pob haint,
  Mawr fraint, dan goron:
Oll ā'u bron byth yn llon,
  Canant felodau
Rhai ni bydd seiniau prudd
  Yn eu rhydd nodau.

Creigfryn Edwards, Garth.
Trysorfa y Plant, Cyf. XXII, Rhifyn 254, Chwefror 1883.

White snow on every hill
  And valley also:
O that I might be like thee,
  So spotless:
But, it is coming that I get to be,
  For the great praise of the Saviour,
Purer than the fine snow
  Sounding a song of love,
With Him in heaven,
  The home of angels;
Where the saints are
    above every infection,
  A great privilege, under a crown:
All with their breast forever full,
  They sing melodies
Those which will never have sad sounds
  In their free notes.

tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~