Bonedd yr Awen

Bonedd yr Awen
O! f'awen, addien iawn wyd, - iawn oeddit
    Yn Adda pan grewyd:
  Rhesymol eneidiol nwyd,
  Dawn natur pob dyn ytwyd.

Awen yn Eden odiaeth - oedd goron
    Hawddgaraf dynoliaeth;
  Ond yn y cwymp, mewn dyn caeth,
  "Enhuddwyd Awenyddiaeth."

Ond er hyn o drueni, - tuediad
    Plant Adda sydd ati;
  Ei heffaith bair ei hoffi,
  Ac arfer a'i hadfer hi.

Pe'n awr heb goeliaw'r gelyn, - yn gwbl iach
    Ac heb lwgr i'w ddylyn,
  Mor gerddbêr ag aderyn
  Heb un bai prydasai dyn.

A ddwg Iôr i gôr y gain - Baradwys,
    Hwy brydant arwyrain,
  Fel ceryb, gwir fawl cywrain,
  Uwch y sêr yn wych eu sain.

Dafydd Owen (Dewi Wyn o Eifion) 1784-1841

The Pedigree of the Muse
O my muse, very fine thou are, - verily thou wast
    In Adam when he was created:
  Reasonable, animate passion,
  The gift of the nature of every man wert thou.

A muse in exquisite Eden - which was the most
    Beautiful crown of humanity;
  But in the fall, in captive man,
  "Hidden poetic Genius".

But despite this tragedy, - the tendency
    Of the children of Adam is toward thee;
  Its result is to continue to enjoy it,
  And practice to renew it.

If there were now no believing the enemy - completely healthy
    And no corruption to follow him,
  As sweetly versed as a bird
  Without any fault man would compose poetry.

And the Lord will lead to the choir of the elegant - Paradise,
    They will compose a panegyric,
  Like a cherub, true, intricate praise,
  Above the stars brilliant their sound.

tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~