Annerch Ymadawol Carwr

Rho'th law i ymadael y fwynaf lân ferch

(Annerch Ymadawol Carwr)
Rho'th law i ymadael,
    y fwynaf lân ferch,
Un arall, mi glywais,
    a ddygodd dy serch;
  Fy yspryd a wywodd,
      e giliodd y gân,
  A ffynnon fy nghysur
      a sychodd yn lân.

Mi gollais o ddagrau
    o'th achos di, Gwen,
Do, nifer y mân-wallt
    sy'n harddu dy ben;
  Mi'th gerais yn ffyddlon,
      mae'r nefoedd yn dyst,
  Mai gwir ydyw'r geiriau
      a glywodd dy glust.

Llwyr gredaf na charodd
    un mab fel myfi, -
Yn hanner fy hunan
    ystyriwn dydi:
  Llawenydd a'm llyngcai
      wrth weled dy wedd,
  Bu'n wynfyd Paradwys
      mwynhâd o dy hedd.

Yr oeddwn eiddigus
    o awel y nen,
A glywn yn y llwyni'n
    chwibanu uwch-ben;
  Ei bod, wrth ymdeithio,
      'n cael cusan dy fin,
  Sy'n berach nâ'r diliau, -
      a mi yma'n flin.

Fy unig hyfrydwch
    oedd rhyngu dy fodd,
Heb gynnyg i arall
    na chusan na rhodd, -
  Ond cabledd a goelit
      yn hytrach nâ'r gfwir
  Yr hwn fydd mor olau
      â'r haf ddydd cyn hir.

Bydd iach, fy anwylyd, -
    pob llwyddiant mwyn llon,
Ddilyno dy lwybrau;
    boed heddwch i'th fron:
  Pob peth dymuniadol
      fo'th gyfran o hyd,
  I mi, wael bererin,
      beth bynnag fo'r byd.

Pe byddai genethod
    mor amled â'r dail,
A rhei'ny mewn glendid
    i Helen yn ail,
  Un arall ni cheisiaf
      i noddi fy nyth;
  Fy nghalon yr unman
      a erys byth, byth.

Mi gerddaf i'r goedwig;
    mae 'deryn bach draw
A gollodd ei gydmar
    yn wylo'n ddi daw, -
  Gwnaf hwn imi'n gyfaill,
      galarwn ynghŷd,
  E ddarfu pob rhinwedd
      a fedd yr holl fyd.

Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846

(The Leaving Address of a Lover)
Put thy hand to leaving,
    mildest, pleasant girl,
Another, I heard,
    has drawn thy affection;
  My spirit has withered,
      retreated has the song,
  And the well of my comfort
      has dried up completely.

I have shed of tears
    because of thee, Gwen,
Yes, as many as the fine hairs
    which adorn thy head;
  I loved thee faithfully,
      heaven is a witness,
  The truth are the words
      thy ear has heard.

I totally belief no lad
    loved like I, -
Half myself, -
    I would consider thee:
  Joy would swallow me
      on seeing thy face,
  The bliss of paradise was
      the enjoyment of thy peace.

I was envious
    of the breeze of the sky,
Which I heard in the hedges
    whistling overhead;
  Its being, while travelling,
      kissing thy lip,
  Which is sweeter than the honeycomb, -
      and I here grieved.

My only delight
    was gratifying thy satisfaction,
Without offering to another
    either a kiss or a gift, -
  But slander thou hast believed
      rather than the truth
  That which will be as clear
      as the summer day before long.

Be well, my beloved, -
    every dear, cheerful success,
Follow thy paths;
    may peace be to thy breast:
  Everything desirable
      be thy share always,
  To me, a poor pilgrim,
      whatever be the world.

If girls were
    as numerous as the leaves,
And those in attractiveness
    equal to Helen,
  Another I shall not seek
      to protect my nest;
  My heart in the same place
      shall remain forever, forever.

I will walk to the woodland;
    there is a little bird yonder
Who lost its partner
    weeping endlessly, -
  I will make him a friend,
      we will mourn together,
  Vanish shall every virtue
      that the whole world says.

tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~