Fy anwyl Fam fy hunan

Pwy a'm hymddygodd yn ddi lŷs

(Fy anwyl Fam fy hunan)
Pwy a'm hymddygodd yn ddi lŷs
  O dan ei gwregys mwynlan?
Pwy roes i'm faeth
    a lluniaeth llòn,
  O laeth ei bròn, bêr anian?
A phwy a'm cadwi rhag cael cam?
  Fy anwyl Fam fy hunan.

Pwy i'm a suai, uwch fy nghrŷd,
  Pan oeddwn wanllyd faban?
A phwy fu'n effro, lawer gwaith,
  Drwy'r hirnos
      faith annyddan?
Pwy a'm gwarchodai rhag pob cam?
  Fy anwyl Fam fy hunan.

Pwy a'm dilladai, er fy llwydd,
  Bryd diniweidrwydd oedran?
Rhag imi fawr beryglu f'oes,
  Ysigo einioes egwan?
A phwy a'm noddai
    rhag drwg nam?
  Fy anwyl Fam fy hunan.

Er blino mam, garuaidd iawn,
  A digio, - na chawn degan,
Hi'n fynych, wei i'm syrthio'n groes,
  Iachâes fy loes â'i chusan:
Pwy ni chwennychai imi gam?
  Fy anwyl Fam fy hunan.

A phwy a'm gwyliai ddydd a nôs,
  Rhag syrthio dros y geulan?
Neu gwympo ar yr aelwyd boeth,
  Mewn cyflwr noeth a thrwstan:
Pwy a'm golygai, rhag drwg lam?
  Fy anwyl Fam fy hunan.

Pwy, ond fy mam, dirionaf merch,
  O eithaf traserch gwiwlan,
A wylai drosof, waelaf drŷch,
  Pan oeddwn wrthddrych truan?
A pheth ond llaw
    Rhagluniaeth lòn
  A ddaliai hon ei hunan?

Pwy a'm cynghorai,
    bob rhyw bryd,
  Rhag arwain bywyd aflan?
Ond parchu enw Duw drwy ffydd,
  A chadw ei ddydd sancteiddlan,
Heb wneuthur unrhyw dwyll na cham?
  Fy anwyl Fam fy hunan.

Er mwyn i'm hawddgar Fam,
    heb groes,
  Ddiweddu oes yn ddyddan,
Wrth iddi blygu bob yn bwyth
  Dan ddirfawr lwyth o oedran;
Rhag suddo i'r bedd
    dan ofal bwn,
  Cymmeraf hwn fy hunan.

Pan fyddo angau llym ger llaw,
  Ei phen a'm dwylaw daliaf;
A thrwyddi grâs,
    yn fendith gref,
  Fy Iôn o'r Nef erfyniaf;
A'm serch yn rhaffau heilltion rhêd,
  Wrth dal'r ddyled olaf.

Oblegyd credu'r wyf fod Duw,
  A wêl, a glyw y cyfan;
Ei lid o entyrch wybren fawr
  Melltenai i lawr drwy f'anian
Pe meiddiwn oddef cynnyg cam
  I'm hanwyl Fam fy hunan.
David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822
Corph y Gaingc 1810

[Mesur: 878787]

(My own dear Mother)
Who brought me, unfailingly,
  From under her kindly belt?
Who gave me the cheerful
    food and nourishment,
  Of the milk of her breast, sweet nature?
And who would keep me from getting harm?
  My own dear Mother.

Who would hush me, above my crib,
  When I was a sickly baby?
And who was awake, many a time,
  Throught the vast, long,
      comfortless night?
Who would watch over me against every harm?
  My own dear Mother.

Who would dress me, for my success,
  At the time of my innocence of age?
Lest I greatly endanger my life,
  To bruise my weak life?
And who would protect me
    from a bad injury?
  My own dear Mother.

Despite grieving mother, very affectionate,
  And angering, - I would not get a toy,
She often, after my falling awkwardy,
  Healed my anguish with her kiss:
Who would not long for some harm to me?
  My own dear Mother.

And who would watch day and night,
  Let I fall over the bank?
Or fall on the hot hearth,
  In a naked and unfortunate state:
Who would supervise me, against a bad leap?
  My own dear Mother.

Who, but my mother, tenderest woman,
  From the most wholly, worthy passion,
Would weep over me, in the worst condition,
  When I was a wretched object?
And what but the hand
    of cheerful Providence
  Would hold her itself?

Who would counsel me,
    on every kind of occasion,
  From leading an unclean life?
But to respect God's name through faith,
  And keep his day purely holy,
Without doing any deception or harm?
  My own dear Mother.

In order for my amible Mother
    without adversity,
  To end her life pleasantly,
As she doubles every stitch
  Under the enormous burden of old age;
From sinking into the grave
    under a load of care,
  I will take this myself.

When sharp death is at hand,
  Her head in my hands I shall hold;
And through it, for grace,
    as a strong blessing,
  My Lord from Heaven I shall beseech;
And my affection in salty ropes shall run,
  While performing the last duty.

Because I believe that God,
  Sees, and hears the whole;
His wrath from the great vault of the sky
  Would flash down through my nature
If I dared to allow any harm to come
  To my own dear Mother.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Caneuon / Welsh Songs ~ Emynau / Welsh Hymns ~ Cerddi / Welsh Poems ~ Lyrics ~ Home ~